Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd - Hyfforddiant ac Adnoddau Allweddol

Bydd angen i'r rhan fwyaf o staff sy'n cynnal gwerthusiadau fynychu'r sesiwn hanner diwrnod a fydd yn rhoi gwybod am y dull a'r broses newydd. Os ydych yn rheolwr newydd neu'n amhrofiadol yn cynnal gwerthusiadau, efallai y bydd yn well gennych fynychu'r sesiynau diwrnod llawn sydd hefyd ar gael.


Os byddwch yn cynnal gwerthusiadau, bydd angen ichi fynychu'r sesiwn hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn, fel sy'n briodol.


Mae'r sesiwn hon yn tybio eich bod eisoes yn cynnal gwerthusiadau, ac mae'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r broses newydd i fesur gwerthoedd ac ymddygiadau ochr yn ochr ag amcanion perfformiad, gan ddatblygu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o werthuso a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn y sefydliad. 
 
Sylwch nad yw'r sesiwn hon yn caniatáu amser ar gyfer trafodaethau manwl, ac felly dim ond i werthuswyr hyderus y mae'n addas. 
 
Anelir y sesiwn hon at y staff hynny sy'n newydd i werthuso neu a hoffai ddiweddaru neu wella eu sgiliau, ac mae'n cynnwys sgiliau gwrando, holi, ac adborth. 
 
Sylwch fod y sesiwn hon wedi'i chynllunio i'r rheini sy'n newydd i werthusiadau, sy'n amhrofiadol, neu a hoffai brofiad manylach. Os ydych yn hyderus yn eich sgiliau gwerthuso, a'r cyfan sydd ei angen arnoch yw diweddaru i'r broses newydd, nid yw'r sesiwn hon yn addas. 
 
 
Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd - Sesiynau Gwybodaeth
Os hoffech gynnal sesiwn wybodaeth i staff, ceir cyflwyniad isod a allai fod yn ddefnyddiol.
 

Adnoddau Allweddol

 

Dilynwch ni