Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd - Hunanasesiad

Cynlluniwyd yr offeryn hunanasesu hwn i'ch helpu i fyfyrio ac ystyried y cwestiynau a allai gael eu trafod yn ystod eich gwerthusiad, ac yn fan cychwyn i chi a'ch rheolwr wrth drafod. 

Mae angen ichi ateb y cwestiynau'n onest ynghylch wyth maes;

  • Eich dyhead neu uchelgais i ddatblygu'ch hun, naill ai yn eich swydd gyfredol neu mewn maes arall 
  • Pa mor dda rydych yn perfformio ar hyn o bryd yn eich swydd, gan gynnwys a ydych yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant i gwblhau'r tasgau angenrheidiol
  • Ai nawr yw'r amser cywir ichi dderbyn heriau a gofynion newydd a fyddai'n dod law yn llaw â datblygu eich sgiliau neu'ch rôl - a ydych yn barod nawr, neu a fyddai'n well petaech yn aros
  • A oes gennych y sgiliau cyfredol sydd eu hangen i fodloni eich rôl gyfredol neu ddatblygu sgiliau newydd, a pha mor rhydd ydych yn defnyddio eich arbenigedd i gynnig cymorth i gydweithwyr eraill
  • I ba raddau rydych chi'n 'byw' gwerthoedd ac ymddygiadau'r Bwrdd Iechyd wrth ryngweithio â'ch tîm a rhanddeiliaid eraill, ac i ba raddau ydych yn arddangos y gwerthoedd hynny i fodloni eich amcanion 
  • Sut ydych yn defnyddio eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau i ddatblygu perthynas â chydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol
  • Eich cymhelliant i gynnig syniadau i wneud gwelliannau yn y gwaith, arwain newid ac annog eraill i wella o hyd
  • Y ffordd rydych chi'n teimlo am eich sgiliau, galluoedd, golwg ac ymddygiad ac a ydych yn ffyddiog y gallwch gwblhau tasgau i safon dda 

Pan fyddwch yn clicio i gael gweld eich canlyniadau, cynhyrchir delwedd fel y diagram isod, a dylech ei hargraffu i fynd â hi i'ch cyfarfod Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd i'w thrafod. Yn syml, bydd eich rheolwr yn gofyn ichi egluro'r ddelwedd, ac mae'n gyfle i'r ddau ohonoch drafod y meysydd dan sylw. Efallai bydd gwahaniaeth barn rhyngoch chi a'ch rheolwr, ond ni allwch gael yr atebion yn anghywir. Man cychwyn yw hwn ar gyfer sgwrs gyda'ch rheolwr i ganfod sut y gall eich cefnogi i gyrraedd y man lle mae arnoch eisiau ac angen bod.

 

LED VBA Self-assessment Example

 

Nid oes targed i'w gyrraedd ar y graddfeydd. Os yw eich canlyniadau'n ymddangos uwchlaw'r llinell oren ym mhob maes, efallai yr hoffech feddwl am ddatblygiad â ffocws. 

Dilynwch ni