Neidio i'r prif gynnwy

Absenoldeb Arbennig

Cyflwyniad

Mae'r BIP yn deall ei bod weithiau'n anodd cael cydbwysedd rhwng gofynion cyfrifoldebau gwaith a chartref. Mae'r Polisi Absenoldeb Arbennig yn bodoli i gefnogi staff ar adegau o angen brys annisgwyl drwy ganiatáu iddynt gymryd absenoldeb ychwanegol. 

Bwriedir i'r polisi hwn ymdrin â'r sefyllfaoedd canlynol:

  • Absenoldeb gofalwyr brys a dibynyddion
  • Absenoldeb argyfwng annisgwyl
  • Absenoldeb profedigaeth

Mae'r Polisi hefyd yn nodi beth i'w wneud pan ofynnir am amser i ffwrdd ar gyfer:

  • Dyletswyddau cyhoeddus
  • Gwasanaeth rheithgor
  • Mynd i gyfweliadau swydd

Ni fwriedir yr absenoldeb a roir o dan y polisi hwn ar gyfer sefyllfaoedd domestig a theuluol tymor hir, y gellir darparu ar eu cyfer mewn ffyrdd eraill, e.e. gwyliau blynyddol, gwyliau heb dâl, lleihau oriau gwaith ac ati. 

Nod y pecyn cymorth hwn yw rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar gymhwyso'r Polisi Absenoldeb Arbennig. Mae'r pecyn cymorth yn eich galluogi i lawrlwytho'r ffurflen ofynnol yn gyflym ac mae cwestiynau cyffredin i roi cyfarwyddyd ar ymholiadau Absenoldeb Arbennig cyffredin i reolwyr a staff.  

 

Polisi Absenoldeb Arbennig

Cwestiynau Cyffredin Absenoldeb Arbennig

Ffurflen Gais Absenoldeb Arbennig

Polisi Hyfforddi a Byddino Milwyr Wrth Gefn

Mae'r BIP yn cefnogi cyflogeion sy'n aelodau o'r Lluoedd Wrth Gefn Gwirfoddol neu sy'n dymuno ymuno â'r lluoedd hyn. 

Bydd hyd at 10 diwrnod y flwyddyn o absenoldeb gyda thâl ar gael i Filwyr Wrth Gefn er mwyn iddynt fynychu gwersyll blynyddol neu hyfforddiant parhaus cyfatebol. Dylid cymryd unrhyw absenoldeb ychwanegol sy'n ofynnol fel gwyliau blynyddol neu ddi-dâl. Bydd rheolwyr llinell, cymaint ag sy'n bosibl, yn hwyluso rhestri dyletswyddau gwaith i ganiatáu mynychu gwersyll blynyddol ac ymrwymiadau hyfforddi eraill e.e. sesiynau hyfforddi wythnosol neu benwythnos. Dylai cyflogeion sy'n filwyr wrth gefn roi cymaint o rybudd ag sy'n bosibl er mwyn cynllunio'n briodol ar gyfer absenoldebau. 

Byddino yw'r broses o alw milwyr wrth gefn i wasanaeth amser llawn. Rhaid i gyflogai sydd am wirfoddoli ar gyfer byddino gael cytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw drwy ei reolwr llinell.

I ymgeisio am absenoldeb gyda thâl am hyfforddiant blynyddol neu i roi gwybod i'ch rheolwr y byddwch yn byddino, defnyddiwch y ffurflenni canlynol:

Ffurflen Ganiatâd Byddino'r Lluoedd Wrth Gefn

Ffurflen Gais Hyfforddiant y Lluoedd Wrth Gefn

 

Dilynwch ni