Neidio i'r prif gynnwy

Pecyn Cymorth Hyfforddiant Gorfodol

Beth yw Hyfforddiant Statudol a Gorfodol?

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar sefydliadau i sicrhau bod eu staff yn derbyn hyfforddiant i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i sicrhau gweithle diogel ac iach.

Mae hyfforddiant statudol yn hyfforddiant ar gyfer yr holl staff sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu lle mae corff statudol wedi cyfarwyddo'r BIP i ddarparu hyfforddiant ar sail deddfwriaeth e.e. diogelwch tân

Hyfforddiant gorfodol yw'r gofynion hyfforddi a bennwyd gan y BIP ac sy'n ymwneud â lleihau risg.

Er mwyn i hyfforddiant ddod yn orfodol, mae'n rhaid i'r arbenigwyr pwnc perthnasol gyflwyno ffurflen gais i'r Grŵp Llywio Hyfforddiant Gorfodol (MTSG).

Darllenwch y Weithdrefn Hyfforddi Gorfodol  am wybodaeth bellach, gan gynnwys cyfrifoldebau.

 

 

 

 

Dilynwch ni