Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu â Gweithwyr - rheolwyr llinell

Mae rôl y rheolwr llinell wrth ymgysylltu â gweithwyr yn hynod bwysig. Ymddygiadau arbennig o ddylanwadol yw:

  • Adolygu ac arwain
  • Rhoi adborth, canmoliaeth a chydnabyddiaeth
  • Annog ymreolaeth a grymuso
  • Cyfathrebu a gwneud yn glir yr hyn a ddisgwylir
  • Gwrando
  • Gwerthfawrogi a chynnwys y tîm
  • Bod yn gefnogol

line managers and engagement

Beth all rheolwyr llinell ei wneud?

Mae'r adran hon yn rhoi rhywfaint o gyngor ymarferol i chi am y camau y gallwch eu cymryd i ymgysylltu â'ch staff.

Rydym eisoes wedi gweld bod ymgysylltu yn bwysig ar gyfer morâl, llesiant a pherfformiad, a bod cytundeb sylweddol ynghylch ysgogwyr ymgysylltu. Y cwestiwn allweddol i unrhyw reolwr llinell yw, beth alla i ei wneud i godi lefelau ymgysylltu yn fy nhîm?
Gyda rhestr mor eang o bethau a all ddylanwadu ar lefelau ymgysylltu, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau, a beth fydd yn cael yr effaith fwyaf. Efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl am yr hyn y gallwch chi ei wneud yn gyntaf i helpu'ch tîm, ac yn ail i ddeall a gwella eich arddull rheoli eich hun:

Darganfyddwch fwy am Ymgysylltu Rheolwyr

 

Dilynwch ni