Neidio i'r prif gynnwy

Pecyn cymorth EHIA

Cyflwyniad

Figures and globe

Yn y gorffennol, rydym wedi cynnal Asesiadau Effaith Cydraddoldeb wrth ddatblygu neu adolygu strategaethau, polisïau, cynlluniau, gweithdrefnau neu wasanaethau BIP.

Mae hyn yn sicrhau ein bod wedi ystyried effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig ac wedi cwrdd â nifer o ofynion statudol/ gorfodol. Nid yw'r ystyriaeth o effaith ar anghydraddoldebau iechyd neu benderfynyddion cymdeithasol iechyd wedi'i chynnwys hyd yma.

Mae'r BIP bellach wedi datblygu dull cyfun, gan ddod â'r Asesiad Effaith Cydraddoldeb a'r Asesiad Effaith Iechyd ynghyd i un offeryn. Mae'r offeryn newydd, Asesiad Effaith Cydraddoldeb ac Iechyd (EHIA), hefyd yn ystyried gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n gosod dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd defnyddio'r EHIA o'r cychwyn cyntaf ac yn ystod camau datblygu unrhyw strategaeth, polisi, cynllun, gweithdrefn neu wasanaeth yn ein helpu i nodi'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y diwygiadau neu'r newidiadau arfaethedig ac yn ein galluogi i ymgysylltu â hwy i sicrhau bod eu hanghenion yn ganolog i'n gwaith. Bydd yn arwain at set o argymhellion i liniaru effeithiau negyddol, a gwella effeithiau cadarnhaol. Trwy gydol yr asesiad, nid yw ‘iechyd’ wedi’i gyfyngu i gyflyrau meddygol ond mae’n cynnwys yr ystod eang o ddylanwadau ar lesiant pobl gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, brofiad o wahaniaethu, mynediad at drafnidiaeth, addysg, ansawdd tai a chyflogaeth.

Offerynnau EHIA

Ymgymryd ag Asesiadau Effaith Cydraddoldeb, Canllaw i staff (gan gynnwys templed)

(Noder: Darllenwch y nodiadau canllaw yn Atodiad 1 a'r templed cyn ceisio cwblhau'r ffurflen. Bydd cwblhau'r ffurflen fel arfer yn cynnwys mwy nag 1 person oherwydd natur y wybodaeth sy'n ofynnol i'w chwblhau'n llawn)

 

Cymorth Ychwanegol

Asesiadau effaith ar y Gymraeg a chydraddoldeb  

Wrth ddrafftio polisïau newydd ar gyfer y mudiad, rhaid i chi ystyried sut y byddant yn effeithio ar y Gymraeg. Dyma rai canllawiau i'ch helpu. Maen nhw'n darparu rhai pwyntiau i'w hystyried a chysylltiadau â dogfennau a fydd yn eich helpu i asesu'r effaith ar yr iaith.  

Asesiadau Effaith ar y Gymraeg a Chydraddoldeb

Am gymorth ychwanegol, gan gynnwys sylwadau ar unrhyw EHIAs wedi'u drafftio, anfonwch e-bost at equityand.inclusion@wales.nhs.uk neu kate.roberts6@wales.nhs.uk.  

Bydd copïau o bob EHIA a gwblhawyd yn flaenorol yn cael eu hychwanegu maes o law ar wefan yr Ysbyty Athrofaol  

 

Dilynwch ni