Neidio i'r prif gynnwy

Urddas yn y Gwaith /Gwasanaeth Cyfryngu Consensws

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIP) wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n rhydd o aflonyddu a bwlio a sicrhau bod yr holl staff yn cael eu trin gydag urddas a pharch, ac yn trin eraill yn yr un modd. Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o fwlio ac aflonyddu sy'n digwydd yn y gwaith neu y tu allan i'r gweithle (e.e. mewn digwyddiadau cysylltiedig â gwaith, neu ar gyfryngau cymdeithasol) a byddwn yn cymryd pob cam ymarferol i osgoi a dileu hyn.

Mae gan y GIG yng Nghymru Broses Urddas yn y Gwaith ar gyfer rheoli cwynion o fwlio ac aflonyddu yn y gweithle. Mae hyn yn disgrifio'r camau y dylid eu cymryd os oes gan aelod o staff broblem sy'n effeithio ar ei urddas yn y gwaith. Mae'r broses hefyd wedi'i nodi mewn siart llif hawdd ei darllen Proses Urddas yn y Gwaith

Fel rhan o hyn, efallai y bydd yn ofynnol i reolwyr arwain trafodaethau rhwng y ddau barti - mae'r Canllaw Byr i Hwyluso Cyfarfodydd  yn rhoi mwy o wybodaeth am y broses hon.

I ddarganfod mwy am fynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu yn y GIG cliciwch yma

I gael cyngor pellach ynghylch problem urddas yn y gwaith, cysylltwch ag Adnoddau Dynol ar UHW 45700.

Cyfryngu yn y Gweithle - 'Consensws'

Consensus mediation

Mae'r Gwasanaeth Cyfryngu Consensws yn darparu cefnogaeth gyfrinachol, ddiduedd i ddau neu fwy o bobl sydd mewn anghydfod i geisio dod i gytundeb.

Defnyddir cyfryngu fel dewis cyntaf wrth ddelio â materion Urddas yn y Gwaith a gellir ei ddisgrifio fel proses anffurfiol, wirfoddol, lle mae person niwtral yn helpu unigolion sydd mewn anghydfod i archwilio a deall eu gwahaniaethau fel y gallant ddod o hyd i'w ateb ei hun.

Mae cyfryngu yn gofyn am ymrwymiad gan y ddau unigolyn ac yn aml gall fod yn gatalydd ar gyfer datblygu materion, o safbwynt yr unigolion ac o safbwynt corfforaethol.

Ceir Taflenni Gwybodaeth i Reolwyr a Staff i'ch helpu chi i ddeall beth yw cyfryngu a sut mae'r broses yn gweithio.

Gellir anfon atgyfeiriad am Gyfryngu i Ganolfan Gweithredu AD trwy ddefnyddio y ffurflen atgyfeirio hon (Ffurflen A).  Unwaith y derbynnir atgyfeiriad, dyrennir yr achos i gyfryngwr a fydd yn cysylltu â'r partïon ac yn gwneud trefniadau angenrheidiol ar gyfer sesiwn un i un gyda'r unigolion, a sesiwn ar y cyd (os cytunir). Bydd yn bwysig darparu'r holl fanylion ar y ffurflen atgyfeirio, gan gynnwys gwybodaeth gefndir am yr achos a fydd o gymorth i'r cyfryngwr wybod cyn dechrau'r broses gyfryngu.

 

        

  I ddarganfod mwy am y gwasanaeth cyfryngu, cliciwch yma

Cyfarfodydd wedi'u Hwyluso
Yn aml, defnyddir y term cyfarfod a chyfryngu wedi'i hwyluso yn gyfnewidiol, er bod peth tebygrwydd rhyngddynt, maent yn brosesau gwahanol. Gweler y daflen wybodaeth am eglurhad pellach o'r gwahaniaethau.
 
Mae mwy o wybodaeth am Hwyluso Cyfarfodydd i'w gweld yn y  Canllaw Byr i Hwyluso Cyfarfodydd.
 
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y Llawlyfr Consensws ac ar y wefan ganlynol - Seeds of Change

 

 

 

 

 

 

 

Dilynwch ni