Neidio i'r prif gynnwy

Profiad Bywyd

Pwy yw’r tîm Profiad Bywyd? 

Rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â phrofiad personol o gael cymorth gyda’u heriau iechyd meddwl i gyfrannu eu mewnwelediad unigryw ac amhrisiadwy o gael mynediad at, neu gefnogi rhywun annwyl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. 

Drwy rannu eich profiad bywyd, gyda’n gilydd gallwn lunio a gwella gwasanaethau yn seiliedig ar eich gwybodaeth, eich heriau a’ch arbenigedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. 

Beth ydyn ni’n ei wneud? 

Nod y tîm Profiad Bywyd yw gweithio mewn ffyrdd creadigol a blaengar a chroesawu amrywiaeth o syniadau ymgysylltu â phrofiad bywyd. Gallai’r rhain gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): 

  • Cynrychiolaeth o brofiad bywyd ar baneli cyfweld 

  • Ymgynghoriad â defnyddiwr gwasanaeth/gofalwr 

  • Grwpiau ffocws 

  • Prosiectau celfyddydau ac iechyd 

  • Cyd-gynhyrchu cyrsiau’r Coleg Adfer 

  • Ceisiadau am gyrsiau ar wardiau 

  • Gweithredu gweithlu cymorth gan gymheiriaid 

  • Ymgynghoriaeth, cyd-gynhyrchu a hyfforddiant profiad bywyd ehangach 

 

Mae’r tîm Profiad Bywyd yn cynnig gwasanaethau fel y Coleg Adfer a Lles, Cyd-gynhyrchu a Chymorth gan Gymheiriaid. I ddarganfod mwy, cliciwch ar y dolenni isod. 

Dilynwch ni