Neidio i'r prif gynnwy

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)

Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) yn gyfraith a gyflwynwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl mewn pedair ffordd wahanol.

Nod y Mesur yw sicrhau bod gofal priodol ar waith ledled Cymru, sy’n canolbwyntio ar anghenion iechyd meddwl unigol pobl. Mae’n gosod cyfrifoldebau ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru, ac yn casglu data i fonitro a gwerthuso pa mor dda y mae pob maes yn ei wneud.

 

Y pedwar maes yw:

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol

Bydd y Mesur yn:

  • Sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael i feddygon teulu atgyfeirio defnyddwyr gwasanaethau atynt os ydynt yn cyflwyno problemau iechyd meddwl (gan gynnwys gorbryder ac iselder)

 

Rhan Dau: Cydlynu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth

Bydd y Mesur yn:

  • Sicrhau, os oes angen gofal a chymorth mwy arbenigol ar berson ar gyfer eu cyflwr iechyd meddwl, bod eu gofal a’u triniaeth yn cael eu goruchwylio gan weithiwr proffesiynol fel seiciatrydd, seicolegydd, nyrs neu weithiwr cymdeithasol (a elwir yn Gydlynwyr Gofal)
  • Gosod y nodau y mae person yn gweithio tuag atynt a'r gwasanaethau a ddarperir i'w helpu i gyrraedd eu nodau

 

Rhan Tri: Asesiad o bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol o'r blaen

Os yw person wedi cael triniaeth arbenigol yn y gorffennol, bydd y Mesur yn:

  • Galluogi person i fynd yn ôl i'r gwasanaeth iechyd meddwl a oedd yn gofalu amdanynt yn flaenorol, i gael cyngor a oes angen unrhyw gymorth neu driniaeth bellach arnynt. Nid oes angen mynd at feddyg teulu yn gyntaf, oni bai eu bod am drafod hyn.

 

Rhan Pedwar: Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol

Os yw person yn yr ysbyty a bod ganddynt broblemau iechyd meddwl, bydd y Mesur yn:

  • Eu galluogi i ofyn am help gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMAH). Mae IMAH yn arbenigwr mewn iechyd meddwl a fydd yn lleisio barn defnyddwyr gwasanaeth.

 

Dilynwch ni