Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n Iach

 

Mae data o Arolwg Iechyd Cymru yn 2015 yn dangos bod 59% o oedolion yng Nghymru wedi’u cyfrif i fod dros bwysau neu’n ordew, gan gynnwys 24% yn ordew a dim ond tua thraean (32%) o oedolion a ddywedodd eu bod wedi bwyta pum dogn neu fwy o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol. Mae deiet gwael yn cyfrif am amcangyfrif o 10.8% o gyfanswm baich y clefyd (Newton et al., 2015). 

Mae argymhellion Llywodraeth y DU ar gyfer deiet iach yn seiliedig ar dystiolaeth gan y Pwyllgor ar Agweddau Meddygol ar Bolisi Bwyd (COMA) a’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) a olynodd COMA yn 2000. 

Trosir yr argymhellion yn arf ymarferol, y Canllaw Bwyta’n Iach, sy’n dangos y cyfrannau lle mae angen gwahanol fathau o fwydydd i gael deiet cytbwys ac iach dros gyfnod o ddiwrnod neu hyd yn oed wythnos, nid o reidrwydd bob amser bwyd.

Mae argymhellion yn nodi y dylai oedolion wneud y canlynol:

  • Bwyta ystod eang o fwydydd i sicrhau deiet cytbwys a bod eich corff yn cael yr holl faetholion sydd ei angen arno.
  • Bwyta’r nifer cywir o galorïau ar gyfer pa mor egnïol ydych chi, fel eich bod chi'n cydbwyso'r egni rydych chi'n ei fwyta â'r egni rydych chi'n ei ddefnyddio. Os ydych chi'n bwyta neu'n yfed gormod, byddwch chi'n magu pwysau. Os byddwch chi'n bwyta neu'n yfed rhy ychydig, byddwch chi'n colli pwysau.

 

GOFYNNWCH 

"A yw gwneud newidiadau i'r pethau rydych chi'n eu bwyta o ddiddordeb i chi?"

CYNGHORWCH
  • Bwytewch yn dda, gan gynnwys digon o ffrwythau a llysiau ffres
  • Gall diet iach lleihau'ch risg canser, strôc, diabetes math 2 a chlefyd y galon
  • Gall bwyta'n dda wneud i chi deimlo'n well amdanoch eich hunan a rhoi mwy o egni i chi
  • Mae bwyd yn chwarae rhan hanfodol o ran cyflawni a chynnal pwysau iach 
  • Mae ffrwythau a llysiau yn rhan o ddiet cytbwys, iach 
  • Maen nhw'n ffynhonnell dda o fitaminau a mwynau, gan gynnwys ffolad, fitamin C a photasiwm 
  • Cynghorwch eich cleient i roi cynnig ar y canlynol:-
    • 5-y-dydd: anelwch at fwyta 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae dogn i oedolyn yn 80g ac i blentyn, mae dogn tua'r cyfanswm y gall y plentyn ei ddal yn ei ddwylo. Ceisiwch ychwanegu ffrwythau at rawnfwyd i frecwast, ciwcymbr a thomato at frechdanau a chael salad neu lysiau gyda'ch prif bryd bwyd. Cadwch lygad allan am ffrwythau a llysiau sydd yn eu tymor, gallant fod yn rhatach 
    • Newid byrbrydau: newidiwch fyrbrydau uchel mewn braster a siwgr am opsiynau iachach, fel ffrwythau, iogwrt diet, llysiau gyda dipiau braster isel, cacennau reis gyda chaws hufennog braster isel. Mae cael ffrwythau a llysiau fel byrbrydau'n gallu'ch llenwi chi a byddant hefyd yn cyfrannu at eich 5-y-dydd
    • Newid dognau: gostyngwch faint eich dognau. Mae rhai pobl yn sylwi bod defnyddio plât llai yn helpu. Anelwch at gynnwys llysiau ar draean o'ch plât, oherwydd bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n llawn. Mae'n cymryd amser i'n hymennydd sylweddoli ein bod ni'n llawn, felly ceisiwch fwyta'n arafach. Dewiswch ddognau llai o fwydydd tecawê a bwydydd parod.
GWEITHREDWCH

Cyfeiriwch eich cleient at:

Cadw Fi'n Iach

 

Dilynwch ni