Neidio i'r prif gynnwy

Yfed Alcohol o fewn terfynau argymelledig

 

Mae canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU ar yfed risg isel yn argymell na ddylai oedolion yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd. Cynghorir pobl sy'n yfed cymaint ag 14 uned yr wythnos i rannu eu harferion yfed dros dri diwrnod neu fwy yr wythnos. Cynghorir menywod sy’n feichiog, neu sy’n meddwl y gallent fod yn feichiog, mai’r peth mwyaf diogel yw peidio ag yfed o gwbl.

Mae un rhan o bump o oedolion Caerdydd a’r Fro yn dweud eu bod yn yfed mwy na’r canllawiau wythnosol.

Nododd adroddiad diweddar gan Public Health England nifer o ffyrdd y mae alcohol yn niweidio iechyd yr yfwr a'r rhai o'u cwmpas. Mae risgiau uniongyrchol yfed yn drwm yn cynnwys gwenwyno ag alcohol, anafiadau, problemau emosiynol a phroblemau perthynas.  Yn y tymor hir, mae yfed unrhyw faint o alcohol yn rheolaidd yn cynyddu'r risg o amrywiaeth o afiechydon gan gynnwys canser y fron a chanser y coluddyn.

 

Buddion Ychydig neu Ddim Alcohol

Buddion i Iechyd 

  • Mwy o Egni
  • Croen gwell
  • Gwell ffitrwydd
  • Helpu i gynnal pwysau iach
  • Risg Is o gael Pwysedd Gwaed Uchel 
  • Risg Is o gael Canserau Penodol
  • Cof Gwell
  • Risg Is o gael Anaf i'r Ymennydd
  • Llai o Orbryder

Hefyd, mae buddion cymdeithasol ac ariannol yn gysylltiedig ag yfed llai o alcohol, neu ddim alcohol.

GOFYNNWCH

"A fyddai newid faint o alcohol rydych chi'n ei yfed o ddiddordeb i chi?"

CYNGHORWCH
  • Byddwch yn ymwybodol o sawl uned o alcohol rydych chi'n eu hyfed (mae 1 peint o gwrw neu seidr (4% ei gryfder) yn 2.3 uned o leiaf ac mae 1 gwydraid safonol o win (175ml) yn 2.1 uned o leiaf). 
  • Cadwch faint o alcohol rydych chi ei yfed o fewn y terfynau argymelledig, sef dim mwy nag 14 uned o alcohol yr wythnos i ddynion a menywod 
  • Os byddwch chi'n yfed cymaint ag 14 uned yr wythnos, estyn hyn yn gyfartal dros 3 diwrnod neu fwy sydd orau 
  • Osgowch alcohol os ydych chi'n feichiog neu'n ceisio beichiogi 
  • Os ydych chi dros 65 oed, argymhellir nad ydych chi'n yfed mwy nag 1.5 uned mewn diwrnod 
  • Bydd hyn y gostwng eich risg strôc, clefyd y galon a chlefyd yr afu/iau, nifer o ganserau, problemau gwaith a theulu, damweiniau a digwyddiadau threisgar, a niwed i'ch baban os ydych chi'n feichiog.
  • Gall torri'n ôl ar alcohol hefyd eich helpu i arbed arian, colli pwysau, teimlo'n well yn y boreau, gwneud i chi deimlo fel bod gennych fwy o egni a theimlo'n llai blinedig yn ystod y dydd, teimlo'n well yn gyffredinol a gwneud i'ch croen edrych yn well.
  • Cynghorwch eich cleient i roi cynnig ar y canlynol:
    • Cael nifer o ddiwrnodau heb alcohol bob wythnos
    • Newid ei ddiod arferol am: ddiod llai e.e. gwydraid llai o win neu potel o gwrw yn lle peint; diod llai cryf e.e. un gyda llai o unedau neu sy'n cynnwys llai o alcohol (ABV); diod ysgafn/gwydraid o ddŵr, neu gael diod gyda phryd bwyd yn unig
  • Ar noson allan: rhowch derfyn ar faint byddwch chi'n ei yfed; penderfynwch faint o arian byddwch chi'n ei wario, ar y mwyaf; dechreuwch yfed yn hwyrach; gwrthodwch fod yn rhan o rownd neu prynwch ddiod ysgafn i chi'ch hun adeg eich rownd chi; gofynnwch am wydraid llai neu ddiod llai cryf na'ch diod arferol.
GWEITHREDWCH

Os cânt eu hyfforddi i wneud hynny, helpwch nhw i gyfrifo faint o unedau maen nhw’n eu hyfed a chynigiwch ymyriad byr, os yw’n briodol. Mae hyfforddiant ar gyflwyno Ymyriadau Byr ar Alcohol ar gael trwy'r cyswllt isod.

Os yw’r person yn poeni am ei yfed ei hun neu rywun arall, cyfeiriwch ef at Feddyg Teulu neu at y gwasanaethau canlynol:

Dilynwch ni