Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod 3 miliwn o fywydau'n cael eu hachub bob blwyddyn ledled y byd trwy imiwneiddio, er na fyddwn fyth yn gwybod pa unigolion sy'n fyw oherwydd iddynt gael eu himiwneiddio pan oeddent yn blant.
Fodd bynnag, mae llawer iawn i'w wneud o hyd yn fyd-eang - mae 400,000 o blant o hyd yn marw bob blwyddyn dim ond o'r frech goch, er bod brechlyn effeithiol a diogel wedi bod ar gael ers dros 30 mlynedd.
Mae afiechydon a fu unwaith yn gyffredin, fel difftheria a thetanws, bellach yn brin oherwydd imiwneiddio. Er datgan yn 2002 bod polio wedi'i ddileu o Ewrop trwy imiwneiddio, nid yw bygythiad clefydau eraill, fel y frech goch a meningitis, wedi diflannu yn y DU heddiw.
Mae risgiau brechu yn fach iawn o gymharu â risgiau cael y clefydau eu hunain
Mae rhai rhieni'n cael eu darbwyllo i beidio brechu oherwydd honiadau a glywant ac a ddarllenant yn y wasg am risgiau rhai brechlynnau. Yn y 1970au, arweiniodd dychryn am frechlyn yn y DU at gwymp yn nifer yr imiwneiddiadau rhag y pâs; arweiniodd hyn at dros 100,000 achos o'r pâs ac amcan o 100 o farwolaethau yn y blynyddol canlynol, gyda nifer fawr yn cael difrod parhaol i'r ymennydd o ganlyniad i'r afiechyd.
Yn ddiweddarach, dywedodd yr astudiaeth a sefydlwyd i ymchwilio i'r risg fod adweithiau acíwt yn digwydd, ond bod gwelliant llawn yn arferol, ac nad oedd digon o dystiolaeth i ddweud bod DTP yn cynyddu risg gyffredinol niwed hirdymor.
Heddiw, er i'r ddamcaniaeth bod cysylltiad rhwng MMR ac awtistiaeth gael ei thanseilio'n drylwyr gan lefel enfawr o dystiolaeth ymchwil, nid yw'r neges hon wedi cyrraedd lleiafrif eto.
Mae gohirio brechu plentyn heb wrtharwyddion clinigol yn dwyn risgiau clefydau sy'n fwy o lawer na risg imiwneiddio
Yn yr un modd â phopeth mewn bywyd, mae'r penderfyniad i imiwneiddio yn gydbwysedd o risgiau, ond mae imiwneiddio rheolaidd i blant yn arbed bywydau.
"A ydych chi / A yw eich plentyn wedi cael eich / ei imiwneiddiadau diweddaraf?"
Cyfeiriwch y cleient at: