Gall bwyta deiet iach a chytbwys helpu i atal salwch sy'n gysylltiedig â deiet a bydd yn rhoi'r egni a'r maetholion sydd eu hangen arnoch i gadw'n egnïol a chynnal pwysau iach.
Mae bwyta'n iach yn helpu i leihau'r risg o gyflyrau penodol gan gynnwys clefyd y galon, strôc, rhai mathau o ganser, diabetes ac osteoporosis. Yn y pen draw, mae bwyta'n iach yn eich helpu i deimlo'n wych, cael mwy o egni ac yn sefydlogi'ch hwyliau.
Pwysau Iach Cymru Iach yw'r strategaeth 10 mlynedd genedlaethol i leihau ac atal gordewdra yng Nghymru. Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Caerdydd a'r Fro yn cyflawni hyn drwy ei gynllun gweithredu strategol Symud Mwy, Bwyta'n Iach yn ogystal â thrwy amrywiaeth o gamau gweithredu sy'n canolbwyntio ar annog dewisiadau bwyd iach.
Darllenwch am gynllun gweithredu Symud Mwy, Bwyta'n Iach yma.
Drwy gydol ein bywydau, mae pethau allweddol y gallwn ni i gyd eu gwneud i'n helpu i heneiddio'n iach a chynnal yr iechyd gorau posibl, megis bwyta deiet iach a chytbwys.
Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro yn gweithio ar fentrau i helpu pobl Caerdydd a Bro Morgannwg i wella eu dewisiadau bwyd, yn ogystal â sicrhau bod ganddynt fynediad at fwyd iachach, gan gynnwys:
Fel rhan o gynllun partneriaeth Symud Mwy, Bwyta'n Iach, rydym hefyd yn:
Synnwyr Bwyd Cymru
Nod Synnwyr Bwyd Cymru yw dylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a ffyniannus.
Sefydlwyd Synnwyr Bwyd Cymru yn 2018 i hybu ymagwedd draws-sector tuag at y system fwyd yng Nghymru ac mae'n gronfa o fewn Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, a gynhelir gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a’r Llywodraeth ledled Cymru i greu system fwyd a ffermio sy'n dda i bobl ac yn dda i'r blaned. Er mwyn cyflawni hyn, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn credu y dylai'r amgylchedd; iechyd a llesiant; cyfiawnder cymdeithasol a'r economi gael eu hintegreiddio i bob meddylfryd polisi yng Nghymru.
Gellir cyflawni'r ymagwedd 'bwyd ym mhob polisï' hon trwy ymchwil, cydweithio traws-sector a thrwy ysgogi Mudiad Bwyd Da Cymru, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion bwyd ac annog cyfranogiad eang mewn gweithgarwch sy'n gysylltiedig â bwyd. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn helpu i ddatblygu'r Mudiad Bwyd Da hwn trwy ddarparu nifer o raglenni sy'n gysylltiedig â bwyd ledled Cymru – a llawer ohonynt yn rhan o bartneriaethau'r DU.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma
Bwyd Caerdydd
Mae Bwyd Caerdydd yn bartneriaeth o unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r ddinas. Mae'n ganolbwynt ar gyfer cysylltu'r bobl a'r prosiectau sy'n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, sy’n amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ar draws y ddinas. Mae’n gweithredu fel llais dros newid ehangach. Yn 2021, enillodd Caerdydd statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, y lle cyntaf yng Nghymru ac yn un o ddim ond chwe lle yn y DU i ennill yr anrhydedd nodedig. Mae Bwyd Caerdydd wedi datblygu 5 nod bwyd: Caerdydd iach, Caerdydd sy'n amgylcheddol gynaliadwy, mudiad bwyd sy'n grymuso, economi fwyd leol lewyrchus, system fwyd deg a chysylltiedig.
Gall pawb yng Nghaerdydd ymuno â'r mudiad drwy 'Addunedu' a gweithredu i helpu Caerdydd i ennill statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Saesneg yn unig) erbyn y flwyddyn 2024.
Bwyd y Fro
Mae Bwyd y Fro yn bartneriaeth fwyd gynaliadwy sy'n anelu at wella fforddiadwyedd, argaeledd a mynediad at fwyd da ledled Bro Morgannwg trwy annog trigolion lleol i fwyta'n iach. Rydym yn bartneriaeth ac mae aelodau o amrywiaeth o sefydliadau lleol a busnesau bwyd, yn cydweithio i gysylltu ac ysbrydoli ein cymunedau, gan ddefnyddio bwyd i ddod â phobl ynghyd a newid bywydau.
Mae gennym dri nod allweddol – darparu pryd da i bawb bob dydd, cefnogi busnesau bwyd lleol i ffynnu, a chysylltu cyfleoedd bwyd lleol a byd-eang.
Rydym wedi cynhyrchu cynllun gweithredu sy'n amlinellu gweithgareddau allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod
Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys:
Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Bwytai a Siopau Adwerthu Ysbytai
Mae bod yn bwysau iach yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol bellach o leihau'r risg o gyflyrau iechyd tymor hir fel diabetes, clefyd y galon a chanserau.
Fodd bynnag, yn ein hamgylchedd presennol mae'n anodd cyflawni hyn gan fod y bwyd o'n cwmpas yn aml yn blaenoriaethu cyfleustra dros iechyd, a gall fod yn uchel mewn braster, siwgr a halen. O ganlyniad, rydym yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau, pysgod olewog a ffibr deietegol, y bwydydd sy'n ein helpu i fod yn iach.
Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd y Prifysgol i nodi dewisiadau iachach sy'n fwy hygyrch a chynaliadwy, gan ddarparu amgylchedd iach i staff, cleifion ac ymwelwyr. Rydym yn gweithredu set o safonau sy'n cael eu monitro'n ofalus i sicrhau ein bod yn gwneud y Dewis Iach yn Ddewis Hawdd (dolen fideo isod).
I gael cyngor ar sut i fwyta'n iach, p'un ai i gynnal iechyd da neu reoli cyflwr, ewch i adnodd digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu chi a'ch teulu i fyw'n iach.
Ewch i wefan Cadw Fi’n Iach yma.
Mae ein deietegwyr wedi cynhyrchu Fideo Canllaw Bwyta'n Dda ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gyngor cyffredinol ar sut i fwyta deiet cytbwys iach.
Gwyliwch y fideo Bwyta'n Iach - Cadw Fi'n Iach yma.
Os hoffech syniadau am brydau iachach y gallwch eu gwneud gartref, mae rhai awgrymiadau ryseitiau iach blasus isod.
Cyrchwch syniadau am ryseitiau iachach yma.
Os ydych yn gwella ar ôl salwch, mae rhagor o wybodaeth Bwyta i Wella - Cadw Fi'n Iach ar gael yma.
Gyda dros 60% o bobl Caerdydd a'r Fro dros bwysau iach, mae'n bwysig bod cymorth yn cael ei ddarparu i helpu pobl i fwyta'n iach a rheoli pwysau iachach, gan osgoi afiechyd. Yn ogystal â'n prosiectau, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau i fynd i'r afael â hyn.
Os hoffech wybod mwy am y gwasanaethau sy’n cefnogi pobl i ddod yn bwysau iachach, gallwch ymweld â gwefan Rheoli Eich Pwysau - Cadw Fi’n Iach yma.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am faeth a sut i gynnal deiet iach a chytbwys, mae amrywiaeth o gyrsiau yn cael eu darparu gan y timau deieteg lleol i gefnogi pobl i wella’u hiechyd trwy fwyta'n iach.
Cyrsiau Cyhoeddus Sgiliau Maeth am Oes – Sgiliau Maeth am Oes® (yn cynnwys Bwyd Doeth)
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y camau rydym yn eu cymryd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i annog pawb i Symud Mwy, Bwyta'n Iach.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm sy'n gweithio ar fwyta'n iach a bwyd cynaliadwy gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:
Rhianon Urquhart, Arweinydd Bwyta'n Iach: Rhianon.Urquhart@wales.nhs.uk
Louise Denham, Bwyd y Fro: Louise.Denham@wales.nhs.uk
Pearl Costello, Bwyd Caerdydd: Pearl.Costello@wales.nhs.uk
Helen Griffith, Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Bwytai a Siopau Adwerthu Ysbytai: Helen.Griffith5@wales.nhs.uk
Chloe Barrell, Safonau Bwyta'n Iach ar gyfer Bwytai a Siopau Adwerthu Ysbytai: Chloe.Barrell@wales.nhs.uk
Synnwyr Bwyd Cymru: foodsensewales@wales.nhs.uk