Cynhyrchodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro y tanc tanwydd ‘Tanc Tanwydd Atal Cwympo: pryd wnaethoch chi wirio eich un chi ddiwethaf?’ gyda chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
Mae ystod o ymarferion a all gael effaith fawr ar gryfder a chydbwysedd, a all leihau'r risg o gwympo. Hefyd, os byddwch chi'n cwympo, gall gwella eich cryfder a'ch cydbwysedd wneud byd o wahaniaeth i'ch gwytnwch a'ch adferiad.
Defnyddiwyd y dystiolaeth ynghylch ymarfer corff yn helpu i atal cwympo i ddatblygu dosbarthiadau cryfder a chydbwysedd yn y gymuned yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg gan hyfforddwyr ymarfer corff cymwys.
Mae tîm iechyd cyhoeddus lleol Caerdydd a'r Fro yn cyflwyno cwrs hyfforddi dwy awr i'r rhai sy'n gweithio a/neu'n gwirfoddoli gyda'r rhai sy'n byw yn y cymunedau lleol.
Mae’r ‘Ysgolion Aros yn Gadarn’ yn brosiect dysgu rhwng cenedlaethau am gwympo.
Mae’r ymgyrch ‘Sadiwch i Gadw'n Saff’ wedi’i datblygu gan fyrddau iechyd, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector sydd ag arbenigedd mewn atal cwympo, dan arweiniad y Tasglu Atal Cwympo Cenedlaethol.
Mae gan wefan Heneiddio'n Dda yng Nghymru adnoddau defnyddiol ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o gwympo neu sydd wedi cwympo.