Trafnidiaeth ac iechyd
Mae lefelau gostyngol o weithgarwch corfforol, lefelau cynyddol o ordewdra a diabetes, llygredd aer, ynysigrwydd cymdeithasol, ac anghydraddoldebau iechyd sy’n gwaethygu i gyd yn faterion iechyd cyhoeddus dybryd yn ein hardal. Mae newid hinsawdd yn fygythiad difrifol sydd eisoes yn amlygu ei hun yn y DU ac ar draws y byd.
Mae patrymau newidiol yn y ffordd rydym yn teithio a sut rydym yn dylunio ein hamgylcheddau ar gyfer teithio wedi chwarae rhan sylweddol yn y materion hyn. Mae angen gweithredu’n feiddgar os ydym am wrthdroi’r tueddiadau hyn mewn iechyd y boblogaeth ac yn fyd-eang, a chreu dyfodol iachach a mwy cynaliadwy i bobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Sut ddaethon ni i’r sefyllfa yma?
Yn y DU, mae trawsnewidiad dramatig wedi digwydd yn y ffordd y mae pobl yn teithio at ddibenion gwaith a hamdden dros gyfnod yr 20fed ganrif. Hyd at y 1950au, roedd y rhan fwyaf o bobl yn teithio o le i le ar droed neu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ers hynny, mae nifer y bobl sy’n berchen ar gar personol wedi cynyddu’n gyflym ac mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y teithiau a wneir mewn car, tra bod nifer y teithiau a wneir ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol wedi lleihau.
Mae ein hamgylcheddau adeiledig wedi datblygu ar y cyd â’r newid cymdeithasol hwn, ac yn ei adlewyrchu. Mae hyn wedi arwain at ddirywiad yn y seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a oedd yn arfer bod yn helaeth ac mae amgylcheddau trefol wedi’u hadeiladu gyda cheir wrth wraidd eu dyluniad. Mae’r rhan fwyaf o ddatblygiadau tai a masnachol dros y 70 mlynedd diwethaf wedi cael eu llywio gan geir, nid pobl.
Mae’r niferoedd uchel o bobl sy’n berchen ar gar wedi hwyluso twf seilwaith fel canolfannau siopa a pharciau busnes y tu allan i’r dref, sydd yn ei dro wedi golygu bod llawer o bobl yn gorfod teithio mewn car.
Yr effeithiau ar iechyd a lles
Mae’r newid yn y ffordd rydym yn teithio o le i le yn ein hamlygu i rai ffactorau risg yr ydym yn gwybod sy’n arwain yn uniongyrchol at salwch difrifol a disgwyliad oes is fel:
Mae’r cynnydd yn y defnydd o geir, ac allyriadau nwyon tŷ gwydr, hefyd yn ffactor sy’n cyfrannu at newid hinsawdd.
Gallem wneud pethau’n wahanol
Mae angen i ni helpu a chefnogi pobl i gerdded, seiclo, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a datgarboneiddio cerbydau preifat. Bydd hyn yn arwain at fanteision iechyd sylweddol i bobl, gan helpu i leihau cyfraddau gordewdra, diabetes, dementia a llawer o ganserau. Bydd hyn yn lleihau’r galw ar y GIG, yn ogystal â lleihau allyriadau carbon a llygredd aer.
Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn cefnogi cyflogwyr i helpu staff gyda theithio iach, drwy’r Siarteri Teithio Llesol.
Rydym yn gweithio gyda’n hawdurdodau lleol i gynyddu argaeledd ac ansawdd seilwaith cerdded a seiclo diogel, ac yn cefnogi polisïau cynllunio sy’n sicrhau mai teithio llesol yw’r dewis hawsaf. Fe wnaethon ni gefnogi Cyngor Caerdydd gyda’i ddatblygiad o’r Cynllun Aer Glân, ac mae ein hardal yn ddigon ffodus i elwa ar fuddsoddiad ym Metro De Cymru, gan gynyddu amlder ac argaeledd opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus.
Fel Bwrdd Iechyd rydym yn annog staff ac ymwelwyr i deithio i’n safleoedd yn gynaliadwy lle bynnag y bo modd.
Am ddisgrifiad mwy manwl o’r dystiolaeth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ac iechyd, a’r ymyriadau sydd eu hangen, gweler Symud Ymlaen: Teithio Llesol i Bawb.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.