Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Emosiynol ac Ymarferol i Ofalwyr Di-dâl

Pobl yn dal dwylo 

Ydych chi'n gofalu amdanoch chi'ch hun?

Ffederasiwn Rhieni Caerdydd

Ers dros 30 mlynedd mae Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro wedi bod yn cefnogi teuluoedd sy’n gofalu am berthynas ag anabledd dysgu. Mae’r Ffederasiwn yn cael ei gynnal gan rieni, i rieni, sy’n deall yr anawsterau y mae teuluoedd a gofalwyr gydol oes yn eu hwynebu. Maent yn cynnal cyfleoedd anffurfiol rheolaidd i ofalwyr ymgynnull yn gymdeithasol lle gallwch gwrdd â gofalwyr di-dâl eraill, rhannu profiadau a syniadau. Gallant eich cyfeirio at ffynonellau cymorth a rhannu gwybodaeth am eich hawliau fel gofalwr a pha gymorth y mae gennych hawl i’w dderbyn.

E-bostiwch: admin@parentsfed.org, ffoniwch: 029 2056 5917 neu ewch i’w gwefan.

    Coleg Adfer a Lles Caerdydd a'r Fro

    Mae Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro yn darparu cyrsiau addysgiadol am ddim ar ystod o bynciau iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles. Caiff ein cyrsiau eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ar draws Caerdydd a’r Fro.

    Mae cymorth gan gymheiriaid wrth wraidd ein holl gyrsiau, gyda phob un ohonynt yn cael eu cyd-gynhyrchu a’u cyd-ddarparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a hyfforddwyr cymheiriaid sydd â phrofiad personol o heriau iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mae arweinwyr y cwrs yn defnyddio eu profiad i gefnogi eraill.

    E-bostiwch: Cardiffandvale.Recoverycollege@wales.nhs.uk, ffoniwch: 029 2183 2619 neu ewch i’w gwefan.

    Gofalwyr Cymru

    Eu bwriad yw gwneud bywyd yn well i ofalwyr.

    • rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth arbenigol.
    • creu cysylltiadau rhwng gofalwyr fel nad oes rhaid i unrhyw un ofalu ar eu pen eu hunain.
    • ymgyrchu gyda’i gilydd dros newid parhaol.
    • arloesi i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyrraedd a chefnogi gofalwyr.

    E-bostiwch: Info@carerswales.org, ffoniwch 029 2081 1370 neu ewch i’w gwefan.

    Gofal a Thrwsio

    Mae hwn yn darparu cyngor arbenigol, cefnogaeth a chymorth ymarferol i helpu pobl hŷn ac anabl a'u gofalwyr i atgyweirio, addasu a chynnal eu cartrefi. Ar gyfer Bro Morgannwg ffoniwch 01446 704308, i Gaerdydd ffoniwch 029 2047 3337, e-bostiwch careandrepair@newydd.co.uk neu ewch i wefan Gofal a Thrwsio

    Gweithdai EPP Cymru i Ofalwyr

    Mae'r EPP (Rhaglenni Addysg i Gleifion) yn cynnig gweithdai iechyd a llesiant am ddim i ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am berthynas, cymydog neu ffrind. Mae'r gweithdai yn cael eu cynnal dros 2 sesiwn ac yn canolbwyntio ar Iechyd Meddwl a Llesiant y gofalwyr, a'u hiechyd a'u llesiant corfforol.

    Cynigir cyrsiau llesiant i'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau tymor hir hefyd; maent yn darparu gweithdai sydd wedi'u cynllunio i helpu gyda rheoli poen a chyflyrau clefyd-benodol fel Diabetes, ymhlith eraill.

    I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau a phryd y byddant yn digwydd, e-bostiwch Epp.Info.cav@wales.nhs.uk neu ffoniwch 029 2033 5403

    Ceir mwy o fanylion am EPP ar-lein ar Wefan EPP Cymru.

    Dewisiadau'r GIG - Adnoddau Rheoli Straen

    Mae'r adnoddau ar-lein hyn ar gyfer nodi, cydnabod a rheoli straen mewn bywyd beunyddiol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Wefan Dewisiadau GIG

    Stepiau

    Gwasanaeth ar-lein yw Stepiau a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol (PMHSS) ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg. Yn bennaf, mae Stepiau yn darparu adnoddau hunangymorth hygyrch a chysylltiadau â gwasanaethau lleol fel cam cyntaf i ddatblygu llesiant meddyliol.

    Ap Ymwybyddiaeth Ofalgar Felindre

    Mae'r Ap rhad ac am ddim hwn wedi'i greu gan y Tîm Seicoleg yng Nghanolfan Ganser Felindre. Yn fwriadol, ni luniwyd yr Ap hwn yn benodol ar gyfer canser, fel y gall unrhyw un ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar fel offeryn i reoli straen a phryder. Bydd gwrandawyr yn cael eu tywys trwy ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar i helpu i wella iechyd meddwl a llesiant.

     

    Dilynwch ni