Mae pob un o’r Canolfannau wedi cyflawni’r safonau ansawdd canlynol:
Achrediad Cyfeillgar i Ofalwyr
Mae Cyfeillgar i Ofalwyr wedi’i gynllunio gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru mewn cydweithrediad â gofalwyr, i wella a chynyddu mynediad at wybodaeth a chymorth i ofalwyr ledled y DU. Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau i roi’r offer, yr hyfforddiant a’r cymorth iddynt sefydlu arfer da ac i ddathlu’r gwaith gwych y maent yn ei wneud i gefnogi gofalwyr.
Enillodd y Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth status Efydd ym mis Mehefin 2019 a statws Arian ym mis Mai 2020.
Ansawdd Macmillan mewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth (MQuISS®)
Wedi’i gyflawni ym mis Ionawr 2019.
Mae’r wobr hon yn cydnabod rhagoriaeth wrth ddatblygu, darparu a gwella gwasanaethau gwybodeth a chymorth a chwrdd ag anghenion newidiol pobl y mae cancer yn effeithio arnynt.
Mark Ansawdd Amgylchedd Macmillan (MQEM®)
Wedi’I ail-ddyfarnu ar gyfer Canolfan Gwybodaeth a Chymorth Macmillan, Awst 2019
Dyfarnwyd am y Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth yn Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, Awst 2019
Mae’r wobr hon yn cydnabod ac yn gwobrwyo arfer da a safonau uchel o fewn amgylchedd ffisegol adeilad gofal canser.
Safonau Ansawdd gwirfoddoli Macmillan (MVQS®)
Wedi’i gyflawni ym mis Awst 2019.
Mae’r wobr hon yn cydnabod y gyfraniad at godi safonau mewn wrirfoddoli ar draws Macmillan. Darllenwch blog Macmillan am y cyflawniad hwn.