Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i wella profiad y claf. Yn y cyd-destun hwn, defnyddir y term "claf" yn llaw-fer ar gyfer pawb sy'n cael profiad o wasanaethau'r GIG ac mae'n cwmpasu teuluoedd a gofalwyr ac eraill.
Mae tîm Profiad y Claf yn cynorthwyo timau clinigol i roi gofal a chymorth i gleifion, perthnasau, gofalwyr a staff drwy wasanaethau uniongyrchol neu gefnogol.
Byddwn hefyd yn cynorthwyo isadrannau clinigol yn uniongyrchol i gael adborth drwy ein strategaeth adborth cleifion. Mae hyn yn darparu llu o safbwyntiau gan y cleifion sy'n defnyddio ein gwasanaethau ac mae'n rhoi adborth amhrisiadwy i dimau clinigol a gwasanaethau cymorth.