Neidio i'r prif gynnwy

Arolygon Cleifion

Mae BIP Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal gorau y gallwn, a sicrhau bod eich profiad o'n gwasanaethau cystal ag y gall fod.

Mae hyn yn golygu sicrhau bod eich argraffiadau cyntaf ac olaf ohonom ni a'n cyfleusterau yn dda, a'ch bod chi:

  • yn cael eich gweld a'ch trin mewn amgylchedd glân, diogel
  • eich bod bob amser yn ddigon cynnes
  • yn cael bwyd da a digon i'w yfed
  • yn gallu cael help bob amser pan fyddwch ei angen.

Rydyn ni hefyd eisiau i chi deimlo eich bod chi'n cyfranogi yn y penderfyniadau a wneir am eich gofal chi, neu ofal rhywun rydych chi'n gofalu amdano, a bod gennych chi ddigon o wybodaeth i'ch helpu chi bob amser.

 

Dilynwch ni