Mae eich fferyllfa leol yn gwneud mwy na dosbarthu meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gallant gynnig cyngor, triniaeth ac ystod o wasanaethau clinigol y GIG sydd i gyd am ddim o'r eiliad y byddwch yn eu defnyddio, heb fod angen gweld eich meddyg teulu.
Gallwch gael cyngor a thriniaeth o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin. Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am y cyflyrau sydd i’w gweld o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.
Gallwch gael gafael ar wasanaethau atal cenhedlu, gan gynnwys meddyginiaeth atal cenhedlu brys a meddyginiaeth atal cenhedlu rheolaidd drwy’r geg o rai fferyllfeydd cymunedol yng Nghaerdydd a'r Fro.
Mae rhai fferyllwyr yng Nghaerdydd a’r Fro hefyd yn gallu rhagnodi meddyginiaethau ar gyfer mân gyflyrau iechyd, fel heintiau’r glust, dolur gwddf ac UTI heb fod angen i chi siarad â meddyg teulu yn gyntaf.
Mae'r Cyflenwad Meddyginiaethau Brys hefyd ar gael mewn rhai fferyllfeydd cymunedol, sy’n golygu y gallwch gael gafael ar gyflenwad brys o'ch meddyginiaethau presgripsiwn yn unig mewn sefyllfaoedd brys.