P'un ai a oes angen cyngor neu driniaeth dros y cownter arnoch am fân afiechyd fel peswch, annwyd neu dwymyn, neu driniaeth neu gyngor ar gyfer anhwylderau cyffredin, cewch bopeth y mae arnoch ei angen yn eich fferyllfa leol.
Defnyddiwch ein cyfleuster chwilio (isod) i ddod i hyd i'ch Fferyllfa leol o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Nid oes angen i chi drefnu apwyntiad a gallwch alw heibio i gael cyngor.
Fel arfer, gall y rhan fwyaf o fân afiechydon gael eu trin gartref gyda digon o orffwys, hylifau a meddyginiaethau y gellir eu prynu dros y cownter.
Ar gyfer peswch ac annwyd, gallwch hefyd brynu meddyginiaethau o'ch archfarchnad leol fel bod eich blwch cymorth cyntaf yn gyflawn a gallwch ofalu amdanoch eich hun gartref os teimlwch yn anhwylus.
Os oes gennych lwnc tost neu donsilitis, mae rhai fferyllfeydd yn cynnig gwasanaeth Profi a Thrin ar gyfer rhai mathau o gyflyrau.
Mae dulliau atal cenhedlu drwy'r geg bellach ar gael i fenywod trwy fferyllfeydd dethol ar draws Caerdydd a'r Fro. Nid oes angen apwyntiadau bob amser ond gallech ffonio ymlaen llaw i gael sgwrs dros y ffôn â fferyllydd sy'n rhagnodi yn un o'r fferyllfeydd sydd wedi'u rhestru. Dysgwch pa fferyllfeydd sy'n cynnig y gwasanaeth dulliau atal cenhedlu drwy'r geg.
Beth os ydych chi'n teimlo'n anhwylus dros y penwythnos neu gyda'r nos?
Bydd pob fferyllfa'n rhestru'u hamseroedd agor a chau pan fyddwch chi'n chwilio'r cyfeiriadur uchod.
Os oes gennych fân afiechyd, mae'r Fferyllydd Cymunedol, Rhodri wrth law i roi cyngor.
Mae ein Fferyllfeydd Cymunedol bellach yn cynnig y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, gan roi cyngor a thriniaeth ar gyfer 26 chyflwr cyffredin. Yma, mae'r Fferyllydd Cymunedol, Elaine, yn esbonio rhagor: