Neidio i'r prif gynnwy

Helpa Fi i Stopio

Baner Helpa Fi Stopio

Os ydych chi'n barod i roi'r gorau i ysmygu, yna gall Helpa Fi i Stopio roi help GIG am ddim sy'n iawn i chi.

Gwasanaethau

Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnal sesiynau mewn dwsinau o leoliadau ar hyd a lled Cymru. Rydym yn darparu cefnogaeth strwythuredig sydd wedi'i theilwra'n llwyr o'ch cwmpas. Bob wythnos byddwn yn ymdrin â phynciau fel: paratoi i stopio ysmygu, gosod dyddiad i stopio ysmygu, delio â straen, rheoli ennill pwysau, a pharhau i beidio ysmygu yn y tymor hir.

Ochr yn ochr â hyn, gall eich Arbenigwr Stopio Ysmygu ddarparu cynhyrchion am ddim i chi, fel clytiau nicotin neu gwm, yn wythnosol. Fe gewch ragor o wybodaeth am y cynhyrchion sydd ar gael a sut y gallwch gael mynediad atynt yn eich sesiwn gyntaf.

Cyfarfodydd

Rhowch y gorau iddi mewn lleoliad anffurfiol, cyfeillgar gydag ysmygwyr eraill, sy'n cael ei hwyluso gan Arbenigwr Stopio Ysmygu hyfforddedig. Rydym yn gwybod mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol i stopio ysmygu, a gall y gefnogaeth a gewch gan eich gilydd wneud gwahaniaeth go iawn. Gallwch hefyd gadw golwg ar eich cynnydd gyda phrofion anadl Carbon Monocsid am ddim bob wythnos!

Cynigir cyfarfodydd mewn llawer o leoliadau hawdd eu cyrraedd ledled Caerdydd a'r Fro, i ddod o hyd i'ch un agosaf, defnyddiwch y canfyddwr ar-lein hwn

Apwyntiadau un-i-un

Rhowch y gorau iddi gyda chymorth Arbenigwr Stopio Ysmygu pwrpasol neu'ch fferyllydd lleol mewn lleoliad cyfrinachol. Gallwch hefyd gadw golwg ar eich cynnydd gyda phrofion anadl Carbon Monocsid am ddim bob wythnos! Mae'r sesiynau hyn yn para tua hanner awr ac ar gael ledled Caerdydd a'r Fro, edrychwch yma i weld eich un agosaf!

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu fel rhan o'r sesiynau hyn.

Apwyntiadau dros y ffôn

Os na allwch fynychu apwyntiad wyneb yn wyneb am unrhyw reswm, peidiwch â phoeni! Rydym hefyd yn cynnig apwyntiadau dros y ffôn. Bydd Arbenigwr Stopio Ysmygu yn eich ffonio bob wythnos ar adeg o'ch dewis. Os oes angen unrhyw gynhyrchion neu feddyginiaeth arnoch, yna bydd cais am y rhain yn cael ei ffacsio'n uniongyrchol i'ch meddygfa i chi ei gasglu.

Dal yn Ansicr?

Os ydych yn dal i fod heb eich argyhoeddi, dyma rai rhesymau i stopio ysmygu. Efallai y byddwch chi'n synnu pa mor gyflym y byddwch chi'n teimlo'r effeithiau!

Peidiwch ag anghofio - Ni chaniateir ysmygu yn unman yn adeiladau BIP

Rhoi Cychwyn Arni

Gweithwyr Iechyd Proffesiynol

Os ydych chi'n weithiwr iechyd proffesiynol sydd eisiau gwneud atgyfeiriad yn uniongyrchol i Helpa Fi i Stopio, defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon neu cysylltwch â helpmequit@wales.nhs.uk 

Dilynwch ni