Neidio i'r prif gynnwy

Atal Tan-faeth mewn Oedolion Hŷn

Mae Maeth mewn Lleoliadau Cymunedol yn llwybr ar gyfer rheoli diffyg maeth yn y gymuned a gefnogir gan becyn adnoddau. Ei bwrpas yw gwella safonau maeth.

Byddwch yn dysgu sut i:

  • Gael cyngor ar gynnal maeth da
  • Asesu risgiau iechyd maethol
  • Cyfeirio at gyngor generig ac arbenigol
  • Datblygu cynlluniau gofal priodol
  • Hyrwyddo a chefnogi dychweliad i annibyniaeth a hunanreolaeth.

Bydd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â phobl a allai elwa o help a chefnogaeth gyda maeth. Gall y rhain fod yn weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, staff cartrefi gofal, darparwyr bwyd, perthnasau a gofalwyr neu wirfoddolwyr. Mae pobl hŷn yn un grŵp lle gellid helpu niferoedd sylweddol.

Gellir cyrchu'r ddogfen ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys llwybr sy'n dangos sut i ymateb i arwyddion o iechyd maethol yn dirywio. Ategir hyn gan becyn adnoddau o daflenni yn rhoi cyngor, dolenni i ffynonellau gwybodaeth eraill a thempledi cynllun gofal enghreifftiol.

Mae 'Gwella Gofal Bwyd a Maeth' Sgiliau Maeth am Oes yn cefnogi gweithredu'r llwybr hwn.

Dilynwch ni