Mae llawer ohonom yn edrych ymlaen at fynd i ffwrdd yr haf hwn ac efallai bod amser hir wedi bod ers i chi gynllunio'ch taith ddiwethaf. Mae'r teithiau hyn yn aml yn cynnwys gweithgareddau sy'n golygu ein bod yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored ac yn herio ein hunain yn gorfforol, felly mae'n bwysig cynllunio ymlaen llaw i sicrhau ein bod yn cadw'n ddiogel, yn iach ac yn gwneud y gorau o'n profiad.
Wrth i ni fynd ar wyliau yn y DU neu hyd yn oed pan fyddwch gartref yn yr haf, efallai y byddwch chi'n dewis gwneud gweithgaredd fel beicio, heicio neu archwilio traethau lleol, ac er bod hyn yn llawn mwynhad, mae’n cynnwys gweithgaredd corfforol hir, bod yn yr awyr agored ym mhob tywydd a chanfod eich ffordd mewn lleoliadau anghyfarwydd.
Rhowch eli haul ar eich croen cyn i chi adael am eich cyrchfan, a dewch â digon o gyflenwad ychwanegol gyda chi i roi rhagor o eli haul ar eich croen drwy gydol y dydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer gweithgareddau sy'n cynnwys lefelau uchel o amlygiad i'r croen fel torheulo ar y traeth neu nofio, a dylech roi mwy o eli haul ar eich croen ar ôl treulio amser mewn dŵr neu wneud gweithgareddau corfforol sy'n achosi i ni chwysu. Dylech roi eli haul ar eich croen bob dwy awr a pheidiwch â chael eich twyllo gan ddiwrnodau cymylog, oherwydd gall pelydrau UV dreiddio drwy’r cymylau, sy’n golygu ei bod yn hanfodol rhoi eli haul ar eich croen o hyd.
Ystyriwch hefyd wisgo het/cap i amddiffyn eich pen rhag yr haul, a defnyddio ymbarél ar y traeth i ddarparu rhywfaint o gysgod.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed digon o ddŵr trwy gydol y dydd, yn hydradu cyn gadael ac yn mynd â chyflenwad digonol gyda chi ar gyfer y grŵp cyfan, neu'n gwybod ble i gael gafael ar fwy os bydd ei angen arnoch. Mae hydradiad yn arbennig o bwysig mewn tywydd poeth ac wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, a gall helpu i atal gorludded gwres a thrawiad gwres.
Mae'n bwysig sicrhau eich bod chi'n bwyta digon o fwyd trwy gydol eich taith undydd. Mae'n syniad da pacio nifer dda o fyrbrydau egni uchel a fydd yn eich cadw i fynd drwy'r dydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn cynllunio gweithgaredd corfforol hir fel taith gerdded neu daith feicio, lle gall mynediad at gyflenwadau ychwanegol fod yn gyfyngedig ac y gallai faint o ynni a ddefnyddiwn ein synnu. Mae byrbrydau delfrydol yn cynnwys:
Mae cynllunio ymlaen llaw yn allweddol i sicrhau nad ydym yn mynd ar goll a'n bod yn gallu cadw at lwybrau diogel sydd wedi'u cynllunio at ddefnydd y cyhoedd. Ystyriwch fynd â map a chwmpawd gyda chi, neu ddefnyddio ap fel 'What Three Words' i ganfod eich lleoliad. Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol dod o hyd i'r fferyllfa agosaf, y ganolfan driniaeth frys neu'r uned mân anafiadau agosaf pe bai eu hangen arnoch.
Os ydych chi'n cynllunio diwrnod ar y traeth, mae'n syniad da gwirio amseroedd y llanw ac unrhyw rybuddion tywydd a allai wneud nofio yn anniogel, mae gan wefan yr RNLI fwy o wybodaeth am bwysigrwydd diogelwch wrth ddefnyddio traethau ac ardaloedd eraill â dŵr.
Sicrhewch bob amser eich bod yn dod â phecyn cymorth cyntaf â stoc dda gyda chi i'w ddefnyddio pe byddech chi'n profi unrhyw fân friwiau, crafiadau neu anafiadau. Mae'n syniad da gwirio eich cyflenwad ymlaen llaw i sicrhau bod gennych bopeth y gallai fod ei angen arnoch. Ystyriwch hefyd ddod â chyflenwad o unrhyw feddyginiaethau rheolaidd y gallech fod yn eu cymryd, yn enwedig os ydych yn ansicr ynghylch pa mor hir y gallech fod i ffwrdd o ble rydych chi'n aros.
Wrth gynllunio gweithgareddau awyr agored, cofiwch sicrhau fod y dillad rydych chi'n eu gwisgo yn addas ac ystyriwch unrhyw beth ychwanegol y gallai fod angen i chi eu pacio. Ar ddiwrnod poeth ar y traeth, ewch â dillad ysgafn a hetiau i sicrhau bod eich croen yn cael ei amddiffyn rhag yr haul. Ar gyfer gweithgareddau corfforol fel heicio neu feicio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwisgo dillad cyfforddus, llac, esgidiau addas fel esgidiau ymarfer neu esgidiau cerdded a helmed, os ydych chi'n beicio. Dylech hefyd gofio, ar ddiwrnodau hir allan, y gall y tymheredd fynd yn llawer oerach gyda’r nos, hyd yn oed yn ystod yr haf, felly ystyriwch fynd â haen ddillad ychwanegol neu flanced i’ch cadw'ch hun yn gynnes pe byddech chi'n dal i fod yn yr awyr agored ar yr adeg honno.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.