Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Heini

Gyda dyddiau mwy heulog a nosweithiau hirach, goleuach, mae misoedd yr haf yn gyfle perffaith i dreulio mwy o amser yn cael hwyl yn yr awyr agored. Gall bod yn egnïol wella lles corfforol a meddyliol, cynyddu eich lefelau egni a'ch helpu i gysgu'n well. Mae hefyd yn helpu i gynnal pwysau iach a chadw'ch lefelau straen yn isel, a’ch amddiffyn rhag cyflyrau fel dementia, diabetes, clefyd y galon, iselder a gorbryder.

Gall dod o hyd i ffyrdd newydd a chyffrous o wneud ymarfer corff dros yr haf fod yn anodd ac weithiau'n ddrud, yn enwedig os oes gennych chi blant ar eu gwyliau ysgol a allai fod angen ychydig o anogaeth. Gallai fod yn ddefnyddiol ceisio awgrymu syniadau nad ydynt yn ymddangos fel pe baent yn cynnwys gwneud ymarfer corff. Rydym wedi llunio'r rhestr ganlynol o opsiynau a fydd yn eich helpu i wneud y gorau o bopeth sydd gan Gaerdydd a'r Fro i'w gynnig er mwyn eich helpu i gadw’n heini.

Ewch ar daith ar hyd llwybrau cerdded Caerdydd a’r Fro

Mae amrywiaeth o lwybrau cerdded o amgylch y ddinas, sy’n amrywio o rai byr, milltir o hyd i deithiau hirach. Gallwch ddod o hyd i gasgliad o lwybrau ar wefan Awyr Agored Caerdydd.

Mae cerdded yn ffordd o gadw’n heini sy’n hwyliog a chyfeillgar i deuluoedd. Gallwch grwydro o amgylch Bro Morgannwg ar un o’r teithiau cerdded lles sydd wedi’u creu’n arbennig, sy’n cynnwys teithiau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, teithiau cerdded natur a realiti rhithwir. Gallwch ddod o hyd i nifer o syniadau am deithiau cerdded ar wefan Cyngor Bro Morgannwg yma.

Awgrymiadau ar fod yn ddiogel wrth fynd ar deithiau cerdded.

Rhowch gynnig ar lwybr beicio addas i'r teulu

Archwiliwch y ddinas drwy’r llwybrau beicio sydd ar wefan Awyr Agored Caerdydd, gan gynnwys Llwybr Trelái a llwybr cylchol Bae Caerdydd. Does dim hyd yn oed angen i chi fod yn berchen ar feic, gan fod OVO Bikes ar gael mewn nifer o leoliadau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, y gallwch eu gweld ar wefan OVO Bike.

Mae gwefan Pedal Power yn rhoi gwybodaeth am logi beiciau, gan gynnwys beiciau wedi’u haddasu’n arbennig i blant ac oedolion sydd â namau. Mae Bro Morgannwg hefyd yn cynnig ’ystod eang o lwybrau seiclo sydd i'w gweld ar wefan Cyngor Bro Morgannwg

Awgrymiadau ar seiclo'n ddiogel.

Ewch i barc lleol

Mae Caerdydd a'r Fro'n frith o rai o'r parciau hyfrytaf yng Nghymru, gan gynnig esgus gwych i fwynhau awyr iach yn agos i'ch cartref a chadw’n heini ar yr un pryd. Mae Parc Bute a Pharc y Rhath yng Nghaerdydd yn ddewis gwych sy’n cynnig golygfeydd prydferth, ac mae Cosmeston a Phorthceri yn y Fro yr un mor ddarluniadol.

Dewch o hyd i restr lawn o'r parciau ar draws Caerdydd a'r Fro yn y dolenni canlynol:

Archwiliwch atyniad lleol

Mae ymweld ag atyniad lleol yn ffordd wych o annog eich teulu i gadw’n heini wrth fwynhau eu hunain ar yr un pryd, ac efallai hyd yn oed dysgu rhywbeth. Mae gan wefannau Croeso Caerdydd a Croeso i Fro Morgannwg ddigon o opsiynau a all eich helpu i gadw’n heini, o lynnoedd a chestyll i erddi blodau a choedwigoedd, mae rhywbeth i gadw pawb yn hapus ac yn iach.

Cadwch yn heini yn y ddinas gyda Chwaraeon Caerdydd

corff allweddol yng Nghaerdydd ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon trwy gydol eu hoes. O ddigwyddiadau chwaraeon, clybiau lleol a chyfleoedd hyfforddi, mae Chwaraeon Caerdydd yn cynnig llwyth o wybodaeth ar sut y gallwch gadw’n heini yn y ddinas. Gallwch gael rhagor o wybodaeth trwy ymweld â gwefan Chwaraeon Caerdydd.

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd gyda Thîm Chwaraeon y Fro

Y canolbwynt ar gyfer popeth yn ymwneud â chwaraeon ym Mro Morgannwg. Nod Tîm Byw’n Iach y Fro yw ysbrydoli cymunedau i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol i wella iechyd a lles yn y Fro. Ymunwch â chlwb chwaraeon newydd, rhowch gynnig ar daith gerdded lles neu dewch o hyd i'ch cae pêl-droed agosaf. Gallwch gael mwy o wybodaeth am gadw’n heini yn y Fro ar wefan y cyngor.

Datblygwch eich hyder yn rhedeg

Mae rhedeg yn ffordd wych a rhad ac am ddim o gadw’n heini. Mae ap Soffa i 5k y GIG yn cynnig cynlluniau rhedeg hawdd i’w dilyn a all helpu unrhyw un i redeg 5km mewn naw wythnos.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni