Er bod llawer ohonom yn edrych ymlaen at dywydd cynnes a diwrnodau heulog hir yr haf, i rai ohonom, gall y gwyliau fod yn gyfnod anodd i'n hiechyd meddwl. Gall amharu ar ein harferion dyddiol a'n patrymau cysgu a gall amser i ffwrdd o'r ysgol wneud i bobl ifanc deimlo'n unig ac ynysig. Gall hefyd fod yn heriol i deuluoedd sy'n ceisio cydbwyso gwaith a gofal plant gydag ymrwymiadau eraill.
Mae'n bwysig ceisio cymryd camau i gefnogi eich iechyd meddwl dros yr amser hwn a cheisio cymorth ychwanegol os ydych yn teimlo y gallai fod ei angen arnoch. Rydym wedi cynnwys rhai awgrymiadau yma a allai eich helpu i ymdopi'n well, yn ogystal â chyngor ar bwy i gysylltu â nhw pe bai angen ychydig o help ychwanegol arnoch.
Ewch i'n tudalen Cadw'n Heini i gael awgrymiadau ar wneud mwy o weithgarwch corfforol yn ystod yr haf.
Cofiwch, os ydych yn rhoi cynnig ar ddysgu sgiliau neu weithgareddau newydd, gwnewch hynny gyda'r holl offer cywir a rhagofalon diogelwch ar waith i osgoi damwain neu anaf.
Gall roi i eraill a bod yn garedig greu teimladau cadarnhaol ac ymdeimlad o foddhad, gan roi teimlad o bwrpas a hunanwerth i chi a'ch helpu i gysylltu ag eraill.
Gallech roi cynnig ar y canlynol:
Gall roi mwy o sylw i’r foment bresennol wella eich lles meddyliol. Mae hyn yn cynnwys eich meddyliau a'ch teimladau, eich corff a'r byd o'ch cwmpas. Mae rhai pobl yn galw'r ymwybyddiaeth hon yn “ymwybyddiaeth ofalgar”.
Gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu i fwynhau bywyd yn fwy a deall eich hun yn well. Mae’n gallu newid y ffordd rydych chi'n teimlo am fywyd a sut rydych chi'n mynd i'r afael â heriau mewn modd cadarnhaol.
Ewch i'r wefan Cadw Fin Iach, sy'n darparu rhestr o adnoddau i archwilio ymwybyddiaeth ofalgar.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.