Neidio i'r prif gynnwy

Trosglwyddo i Wasanaethau Arenneg i Oedolion

Rydym yn gweithio'n galed i wella profiad cleifion pan gaiff eu gofal ei drosglwyddo o unedau pediatrig i unedau oedolion. Gall hyn fod yn amser sy'n achosi straen ac arwain at broblemau cydymffurfio sydd, yn ei dro, yn gallu effeithio ar y rheolaeth ar glefydau ac effeithio'n benodol ar oroesi yn sgil trawsblaniad. Mae ymyriadau ar waith neu'n cael eu datblygu gan y timau yn Lerpwl i gleifion gogledd Cymru ac yng Nghaerdydd i gleifion de Cymru i hwyluso'r broses hon. 

Yng ngogledd Cymru, mae'r dogfennau canlynol yn rhoi gwybodaeth am drosglwyddo:
 

Yn ne Cymru, mae'r adnoddau canlynol ar gael i gefnogi'r broses drosglwyddo:

  • Rhaglen Ready Steady Go. Datblygwyd yr adnodd hwn gan ein cydweithwyr ym maes arenneg bediatrig yn Southampton ac mae'n berthnasol i unrhyw glaf â chlefyd cronig a fydd ganddo pan fydd yn oedolyn. Mae'r ddolen yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y rhaglen ac mae'n caniatáu i chi lawrlwytho'r dogfennau cysylltiedig. Fel arfer, bydd y broses hon yn cael ei chyflwyno o ryw 13/14 oed.
  • Cyflogi gweithiwr ieuenctid, Shaun Thomas, sy'n gweithio yng Nghaerdydd ac yn Abertawe.
  • Clinig i oedolion ifanc dan arweiniad Dr Shiv Hegde (arenegwr pediatrig) a Dr Sian Griffin (arenegwr oedolion) yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
  • Clinig i oedolion ifanc yn Ysbyty Treforys i hwyluso trosglwyddo cleifion yng ngorllewin Cymru i wasanaethau oedolion.  Mae'r clinig hwn dan arweiniad Dr Graham Smith (arenegwr pediatrig), Dr Michelle Jane Ellison (pediatregydd) a Dr Clare Parker (arenegwr oedolion).
Os bydd cleifion neu eu teuluoedd yn dymuno dysgu rhagor am y broses drosglwyddo, cânt eu hannog i siarad â'u meddyg ymgynghorol neu gyda'r tîm nyrsio. 
Hefyd, byddem yn croesawu adborth gan gleifion a rhieni am y broses drosglwyddo, am ein bod bob amser yn edrych ar ffyrdd o'i gwella. Gallwch naill ai siarad â'ch meddyg ymgynghorol neu ddefnyddio'r adnodd rhoi adborth sydd ar gael gan ddefnyddio'r ddolen ar frig y dudalen hon.