Neidio i'r prif gynnwy

Diwygio Lles

Trwy Ddeddf Diwygio Lles 2012, mae Llywodraeth y DU wrthi'n cyflwyno'r newid mwyaf i'r system les mewn 60 o flynyddoedd. Y nod yw symleiddio'r system, gostwng twyll a chreu cymhellion i weithio trwy sicrhau bod gwaith bob amser yn talu. Dros y 5 mlynedd nesaf, bydd amrywiaeth o ddiwygiadau lles yn cael eu rhoi ar waith. Mae nifer o elfennau:

  • Cyflwyno'r Credyd Cynhwysol ar sail prawf modd i oedolion o oedran gweithio, sy'n disodli amrywiaeth o fudd-daliadau presennol, gan gynnwys budd-dal tai.
  • Cyflwyno un rhaglen 'O Fudd-dal i Waith', gyda'r nod o gynorthwyo pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers cyfnod hir yn ôl i waith. 
  • Ailasesu hawliadau budd-dal anabledd ac analluogrwydd, yn enwedig gallu unigolion i weithio.
  • Cyflwyno cap ar fudd-daliadau y gall pobl o oedran gweithio eu derbyn.
  • Cronfa Gymdeithasol, y bydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn gyfrifol amdani, yn disodli Benthyciadau Argyfwng a Grantiau Gofal Cymunedol. 
  • Bydd Cymorth lleol y Dreth Gyngor yn disodli budd-dal y dreth gyngor; LlC fydd yn gyfrifol amdano ac awdurdodau lleol fydd yn ei weinyddu.

Mae gwybodaeth fanwl am y newidiadau a sut i gael help neu gyngor yn lleol ar gael ar wefannau awdurdodau lleol:

Mae Cyngor Caerdydd wedi paratoi'r ffeithlenni canlynol, a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Cyngor i Gaerdydd

Mae Cyngor i Gaerdydd yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim i bawb am eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Rydym yn rhoi pwys ar amrywiaeth, yn hybu cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaeth. Gall y gwasanaeth gynnig cyngor ar faterion, gan gynnwys:

Cyngor Cyffredinol 

  • Y Teulu a Pherthynas
  • Cyfraith Cyflogaeth
  • Mewnfudo
  • Gwahaniaethu a Materion Defnyddwyr 

Cyngor Arbenigol

  • Budd-daliadau Lles 
  • Dyled
  • Tai

Taflen Cyngor i Gaerdydd 
Taflen Ddwyieithog Cyngor i Gaerdydd

Gellir atgyfeirio trwy:
E-bost: enquiries@cardiffadvice.org.uk
Ffôn: Llinell Weinyddol - 029 2087 1015

Gwasanaeth Allgymorth i Mewn i Waith  

Mae'r Gwasanaeth Allgymorth i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sy'n chwilio am waith, gan gynnwys clwb swyddi, help i ysgrifennu CV a hyfforddiant cyfrifiadura sylfaenol. Isod, mae manylion y gwasanaethau a'r hyfforddiant a ddarperir, neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 029 2087 1000 neu e-bostiwch - intoworkadvice@cardiff.gov.uk.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a sefydliadau partner eraill i gryfhau'r ddealltwriaeth leol o effeithiau tebygol diwygio lles ac i ddatblygu ymateb cyfunol effeithiol er mwyn diogelu a chefnogi dinasyddion. 

Gwefan ddefnyddiol arall gyda gwybodaeth fanwl am y newidiadau yw'r Adran Gwaith a Phensiynau.