Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr Tramor

Beth yw Ymwelydd Tramor?

Ymwelydd Tramor yw unigolyn nad yw fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn darparu gofal iechyd i bobl sy'n byw yn y DU. Nid oes hawl awtomatig gan bobl nad ydynt fel arfer yn byw yn y wlad hon i ddefnyddio'r GIG yn rhad ac am ddim. 

Mae hyn yn wir ni waeth beth yw eu cenedligrwydd, a oes ganddynt basbort Prydeinig, neu a ydynt wedi byw yn y wlad hon a thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a threthi i'r wlad hon yn y gorffennol.

Rheoliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae'r Rheoliadau'n gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar y BIP i ganfod os nad ydy cleifion fel arfer yn preswylio yn y DU. Os nad ydynt, efallai y codir tâl ar y claf am y gwasanaethau a ddarparwyd gan y GIG, a hynny'n destun rhestr o eithriadau.

Cleifion y mae'r GIG yn Codi Tâl arnynt

Mae cleifion y codir tâl arnynt o dan y Rheoliadau yn cael eu trin fel Cleifion y mae'r GIG yn Codi Tâl arnynt, ac nid cleifion preifat. Yn wahanol i gleifion preifat, mae Cleifion y mae'r GIG yn Codi Tâl arnynt yn atebol i dalu am eu triniaeth hyd yn oed lle na chafwyd ymrwymiad i dalu.  

Mae triniaeth Cleifion y mae'r GIG yn Codi Tâl arnynt yn destun yr un flaenoriaeth glinigol â chleifion eraill y GIG. 

Talu

Os ydych yn atebol i dalu am eich triniaeth, mae BIP Caerdydd a'r Fro yn derbyn y dulliau talu canlynol:
• Arian
• Siec
• Cerdyn Credyd/Debyd

Gellir talu yn Adran yr Arianwyr, sydd ym mhrif gyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru ym Mharc y Mynydd Bychan. Bydd yr ariannwr yn rhoi derbynneb am y swm a dalwyd. 

Triniaeth Frys

Mae rhai gwasanaethau a ddarperir yn y GIG yn rhad ac am ddim i bawb, ni waeth ble y maent yn preswylio. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys triniaeth a roir mewn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, neu Adran Argyfwng.

Pan fydd y claf yn cael ei dderbyn ar ward, neu'n cael apwyntiad claf allanol, ni fydd y driniaeth yn rhad ac am ddim rhagor, ac o hynny ymlaen bydd tâl yn cael ei godi. 

Er enghraifft, lle rhoddwyd triniaeth frys mewn man arall yn yr ysbyty, er enghraifft mewn Uned Gofal Dwys, gellir codi tâl am y driniaeth - y lleoliad sy'n cael ei eithrio, nid y math o driniaeth a roir. 

Eithriadau Ymwelwyr Tramor

Os nad yw'r claf fel arfer yn preswylio yn y DU, bydd angen i'r Tîm Ymwelwyr Tramor wneud ymholiadau i amgylchiadau'r claf, i bennu a yw'n bodloni un o'r categorïau eithriad, neu a yw'n atebol i dalu am ei driniaeth.

Cyfrifoldeb y claf yw darparu tystiolaeth sy'n cefnogi'r hawliad i driniaeth am ddim, neu gellir codi tâl fel arall.


Newidiadau ar ôl Brexit i Ymwelwyr o'r UE

Gofal iechyd wedi'i gynllunio ar ôl 1 Ionawr 2021

Bydd trefniadau gofal iechyd wedi'i gynllunio yn parhau; a bydd pensiynwyr cymwys, gweithwyr trawsffiniol a rhai grwpiau eraill - ac aelodau o'u teuluoedd - yn parhau i elwa ar drefniadau gofal iechyd cilyddol sy'n talu eu costau gofal iechyd.

Dylai darparwyr gofal iechyd barhau i ddefnyddio'r prosesau sydd eisoes ar waith i adennill y costau hyn o Aelod-wladwriaethau.

Gyda diwedd rhyddid i symud, bydd dinasyddion yr UE sy'n symud i'r DU o 1 Ionawr 2021 am fwy na chwe mis yn destun rheolau mewnfudo ac yn talu'r gordal iechyd mewnfudo yn rhan o unrhyw gais am fisa. Fodd bynnag, bydd rhai grwpiau, lle mae Aelod-wladwriaeth yn parhau i dalu eu costau gofal iechyd yn llawn, yn gallu cael ad-daliad o'r gordal. 

Efallai y codir tâl am driniaeth y GIG ar ymwelwyr tymor byr â'r DU nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y cytundeb newydd rhwng y DU a'r UE ar ofal iechyd cilyddol, gan gynnwys cyn-breswylwyr y DU.

Cael gofal iechyd yng Nghymru ar ôl 1 Ionawr 2021

Bydd dinasyddion yr UE sy'n byw'n gyfreithlon yng Nghymru cyn 31 Rhagfyr 2020 yn gallu defnyddio'r GIG yng Nghymru, fel y gallwch yn awr, ar yr amod eu bod wedi cofrestru a chael statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog i allu parhau i fyw yn y DU a chael at wasanaethau'r GIG am ddim. Os na fyddwch yn cofrestru, efallai y cewch eich ystyried yn ymwelydd tramor ac efallai y codir tâl arnoch am wasanaethau'r GIG. I gael gwybod pa gymorth am ddim sydd ar gael wrth ymgeisio am statws preswylydd sefydlog a chyn-sefydlog, trowch at wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo.

Er mwyn cael eich ystyried yn un sy'n preswylio fel arfer, rhaid eich bod yn byw yng Nghymru yn gyfreithlon ac yn briodol o sefydlog am y tro. Efallai y gofynnir ichi am dystiolaeth o hyn. 

Cytundeb â Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir

Mae'r DU wedi cytuno ar gytundebau hawliau dinasyddion gyda Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir. Golyga'r cytundebau hyn y bydd dinasyddion y gwledydd hyn sy'n byw'n gyfreithlon yn y DU ar y diwrnod y mae'r DU yn gadael yr UE yn gallu defnyddio'r GIG fel y maent ar hyn o bryd. 

Nid yw'r cytundebau hyn yn cynnwys dinasyddion y gwledydd hyn sy'n symud i'r DU ar ôl diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020.

Cewch wybod rhagor am Gytundeb Hawliau Dinasyddion y Swistir ar GOV.UK.

Cewch wybod rhagor am Gytundeb Hawliau Dinasyddion EFTA AEE (Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein) ar GOV.UK.

Cytundeb ag Iwerddon

Bydd dinasyddion Iwerddon sy'n byw yn y DU, a dinasyddion Prydain sy'n byw yn Iwerddon, yn parhau i gael sicrwydd gofal iechyd yn y wlad lle maent yn byw ar ôl i'r DU ymadael â'r UE ar 31 Rhagfyr 2020. Mae hyn oherwydd trefniadau hirfaith o dan yr Ardal Deithio Gyffredin.

Cewch wybod rhagor am yr Ardal Deithio Gyffredin rhwng y DU ac Iwerddon ar GOV.UK

Astudio yng Nghymru

Gallwch barhau i ddefnyddio eich EHIC neu Dystysgrif Amnewid Dros Dro (PRC) i gael at ofal iechyd y GIG am ddim os dechreuoch gwrs addysg neu hyfforddiant yng Nghymru cyn i'r DU adael yr UE. Bydd hyn yn berthnasol hyd ddiwedd eich cwrs, hyd yn oed os daw i ben ar ôl 31 Rhagfyr 2020. 

Os dechreuoch eich addysg neu hyfforddiant yng Nghymru ar ôl i'r DU adael yr UE, efallai na fydd eich EHIC yn ddilys. Dylech brynu yswiriant i sicrhau eich gofal iechyd fel y byddech petaech yn ymweld ag unrhyw wlad arall y tu allan i'r UE. 

Nid yw hyn yn effeithio ar hawliau unigolion dan sylw yn y cytundebau hawliau dinasyddion gyda'r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein.

Dilynwch ni