Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Niwroadsefydlu Cymunedol

“Yn cefnogi pobl i fyw bywyd yn dda: eich ffordd chi.”

Mae gan BIP Caerdydd a'r Fro amrywiaeth o wasanaethau niwroadsefydlu cymunedol sydd ar gael i bobl ag anhwylderau niwrolegol dirywiol neu gaffaeledig sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

 

Yr athroniaeth ym mhob tîm yw cydweithio â chleifion, eu teuluoedd a/neu ofalwyr, gan annog cymorth hunanreoli, sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl a galluogi unigolion i ailddysgu sgiliau a bod mor annibynnol ag sy'n bosibl yn y gymuned. 

Ffisiotherapi i Gleifion Allanol ag Anhwylder Niwrolegol

Mae'r Tîm Ffisiotherapi i Gleifion Allanol ag Anhwylder Niwrolegol yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi cael diagnosis o anhwylder niwrolegol.

Brain shape with lit-up nerve structures
Gwasanaeth Rhyddhau Cynnar gyda Chymorth (Strôc)

Tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu cyfraniad strôc arbenigol i gleifion yn y gymuned yw'r Gwasanaeth Rhyddhau Cynnar gyda Chymorth (ESD). 

Tîm Anaf Ymennydd Cymunedol

Mae'r Tîm Anaf Ymennydd Cymunedol (CBIT) yn gweithio o Ysbyty Rookwood, Caerdydd. 

Dilynwch ni