20 Mawrth 2024
Edrychwch ar y 12 categori newydd yng Ngwobrau GIG Cymru, ystyriwch sut y gallwch chi arddangos eich gwaith gwych.
Mae cystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru eleni yn gyfle gwych i ddathlu eich gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid gwasanaethau i bobl yng Nghymru. Beth bynnag fo’r newid, boed yn fawr neu’n fach, mae’r gwobrau’n ffordd wych o gydnabod eich gwaith anhygoel dros iechyd a gofal ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Gall unrhyw un sy'n gweithio i GIG Cymru gystadlu yn y Gwobrau gan gynnwys myfyrwyr. Bydd gan yr enillwyr lwyfan i rannu eu gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae’r categorïau ar gyfer 2024 wedi’u hailwampio i gyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.
Mae 12 gwobr newydd sbon, sef:
Cyn cystadlu, darllenwch y Canllaw ar wneud Cais ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2024.
Mae ceisiadau ar agor tan 5:00pm, dydd Gwener 3 Mai 2024
Cymerwch gip ar y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn 2023 a Gwobr GIG Cymru 2023 am waith sy'n cefnogi pobl anabl i ddod yn fwy actif yn gorfforol.