Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dathlu ar ôl i 3 o’i brosiectau gwella gyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau GIG Cymru eleni, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 20 Gorffennaf).

Mae'r Gwobrau GIG Cymru yn cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol. Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cystadlu am y gwobrau canlynol:

Cyflwyno iechyd a gofal o werth uwch

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Gwreiddio gwell gwasanaeth eiddilwch mewn gofal brys a gofal mewn argyfwng

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Sefydlu clinig gofal Amdriniaethol i Bobl Hŷn sy'n cael Llawdriniaeth (POPS) mewn llawfeddygaeth gyffredinol ddewisol

Gwella iechyd a llesiant
Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro - Ein Dôl Iechyd – Parod at y Dyfodol

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 26 Hydref yng Nghaerdydd. Gyda nifer aruthrol o enwebiadau ysbrydoledig wedi’u cyflwyno eleni, roedd y panel beirniadu o arbenigwyr y GIG yn ei chael hi’n hynod o anodd llunio rhestr fer o’r 24 a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn yr wyth categori gwobrau. Yn y cam nesaf, bydd y beirniaid yn ymweliad â phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn rhithwir i gael rhagor o wybodaeth am eu prosiectau gwella.

I gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i gwobraugig.cymru.  

Dilynwch ni