Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr GIG Cymru am waith sy'n cefnogi pobl anabl i ddod yn fwy actif yn gorfforol

02 Chwefror 2024

Mae Ben Breakspear o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn rhan o bartneriaeth Cymru gyfan a enillodd Wobr GIG Cymru 2023 am waith sy’n cefnogi pobl anabl i ddod yn fwy actif yn gorfforol.

 

Fel Ymarferydd Gweithgarwch Anabledd Iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, nod Ben Breakspear yw ei gwneud hi’n haws i oedolion a phlant (o ddwy oed) sydd ag anableddau a namau, fanteisio ar gyfleoedd chwaraeon fel nofio, criced neu bêl-droed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Ym mis Tachwedd roedd Ben yn rhan o dîm y Bartneriaeth Gweithgarwch Anabledd Iechyd genedlaethol a enillodd Wobr GIG Cymru 2023 am wella iechyd a lles. Mae gan bob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru Ymarferydd Gweithgarwch Anabledd Iechyd sy’n aelod o dîm Cymru gyfan.

Dechreuodd y prosiect fel cynllun peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda Chwaraeon Anabledd Cymru. Nododd Dadansoddiad o Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad, am bob buddsoddiad o £1, fod £124 o elw cymdeithasol yn cael ei greu, ac yn dilyn llwyddiant y peilot, cafodd ei gyflwyno fel menter genedlaethol yn 2022.

Dywedodd Ben:“Rydym yn ceisio sicrhau bod pob oedolyn a phlentyn ag anableddau a namau yn cael cymorth i ddod yn fwy actif yn gorfforol. Gyda chymorth y Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol ar draws ein byrddau iechyd, ein nod yw hyrwyddo manteision gweithgarwch corfforol drwy sgyrsiau 'gwneud i bob cyswllt gyfrif'.

“Hyd yma yng Nghaerdydd, rwyf wedi llwyddo i uwchsgilio 349 o Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol sydd wedi arwain at 138 o bobl yn cael eu cyfeirio at y llwybr. Y nod yw cynyddu’r niferoedd hyn a chyrraedd ystod ehangach o dimau a gwasanaethau i’w helpu i wreiddio’r Llwybr Gweithgarwch Anabledd Iechyd yn eu hymarfer dyddiol, gan hysbysu mwy o unigolion am weithgarwch corfforol a defnyddio’r llwybr fel arf i’w cynorthwyo i gael mynediad i’r cyfleoedd lleol hynny.”

Cyflwynodd Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget y Wobr GIG Cymru am wella iechyd a lles i dîm Cymru gyfan ar 10 Ionawr 2024 yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ben (yn y llun yr ail o'r dde): “Fel tîm, rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr, ac mae’n anrhydedd fawr. Mae'n destament i'r holl waith caled sydd wedi digwydd y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod y llwybr yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Dim ond y dechrau yw hyn i ni ac rydym yn gobeithio parhau i ddatblygu cydberthnasau gyda Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol ac Awdurdodau Lleol i gefnogi mwy o unigolion anabl i wneud gwahaniaeth trwy weithgarwch corfforol”.

Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod anabledd wedi'i ddiagnosio ac yr hoffech chi gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gallwch ofyn i'ch Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol neu gofrestru ar gyfer y Llwybr Gweithgarwch Anabledd Iechyd gan ddefnyddio'r ffurflen hon.

Dilynwch ni