Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau gweithredol i'r uned wenwynau

Cwestiynau Cyffredin
Beth yw’r uned gwenwynau? / Pwy fyddai’n defnyddio’r gwasanaeth hwn?

Mae’r uned gwenwynau yn ardal arbenigol bwrpasol sydd â staff sy’n ymdrin ag anghenion cleifion dros 16 oed yr amheuir eu bod wedi’u gwenwyno. Mae cleifion wedi’u gwenwyno yn aml angen cymorth seicolegol a chymdeithasol yn ogystal â thriniaeth gorfforol.  Yn nodweddiadol, mae’r unedau’n cynnwys staff sydd wedi cael hyfforddiant tîm amlddisgyblaethol ac sy’n brofiadol ym maes gofalu am gleifion wedi’u gwenwyno.

Beth sydd wedi newid a pham?

Cyn 2020, byddai cleifion ag achosion o wenwyno acíwt yn cael triniaeth naill ai yn Ysbyty Athrofaol Llandochau neu Ysbyty Athrofaol Cymru (Parc y Mynydd Bychan) lle byddent dan ofal ffarmacolegydd clinigol neu feddyg cyffredinol. Roedd cael dau bwynt mynediad gwahanol ar gyfer y math hwn o ofal yn golygu nad oeddem yn darparu gwasanaeth cyson i gleifion a oedd wedi’u gwenwyno’n ddifrifol ac felly gwnaethom ddechrau ystyried sut y gallem newid hyn er gwell. Mae’r gwasanaeth bellach yn cael ei ddarparu o un safle yn unig - Ysbyty Athrofaol Cymru.

Sut mae hyn o fudd i gleifion?

Weithiau, bydd angen gwely yn yr uned gofal dwys ar gyfer cleifion ag achosion o wenwyno acíwt, sydd ddim ar gael yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Hygyrchedd y Safle

Ble mae’r gwasanaeth wedi’i leoli?

Mae’r safle wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XW

A oes cyfleusterau parcio? A fydd yn rhaid i mi dalu?

Oes, mae lleoedd parcio pwrpasol ar gyfer cleifion, ymwelwyr a staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, gan gynnwys mannau parcio hygyrch. Nid oes rhaid i chi dalu am barcio.

A oes cyfleusterau parcio hygyrch?

Oes, mae nifer o leoedd parcio hygyrch ar gael, gyda baeau wedi’u marcio’n glir a mynediad hawdd at yr ysbyty.

Beth yw’r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus?

Bws

Mae safle bws y tu allan i’r maes parcio aml-lawr sy’n daith gerdded fer iawn i’r adran Achosion Brys. Cliciwch ar y ddolen hon i ddod o hyd i’r amserlen bws:

Traveline Hospital

Trên

Y gorsafoedd trên agosaf yw Lefel Uchel y Mynydd Bychan (llinell Cwm Rhymni i Gaerdydd ac yn ôl) a Lefel Isel y Mynydd Bychan (llinell Coryton i Gaerdydd ac yn ôl). Mae’r ddau un filltir o Ysbyty Athrofaol Cymru.

Cynlluniwch eich taith gyda Thrafnidiaeth Cymru.

Seiclo

Mae opsiynau storio beiciau ar gael yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Parcio a Theithio am Ddim

Mae ein gwasanaeth Parcio a Theithio am ddim i staff, cleifion ac ymwelwyr Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae’r bws yn rhedeg o Bentwyn, oddi ar yr A48(M) yn CF23 8HH i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda bysiau bob 20 munud ac mae amser y daith i Ysbyty Athrofaol Cymru tua 6 munud.

Mae’r bws cyntaf yn gadael Pentwyn am 6.30am a’r bws olaf yn gadael Ysbyty Athrofaol Cymru am 9pm.

I gael yr amserlen lawn cliciwch yma.

Cyfleusterau’r Safle

A oes cyfleusterau arlwyo ar y safle?

Mae cyfleusterau bwyta ac ardal siopa fach ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru.
 

Mae bwyty Y Gegin wedi’i leoli ar Lawr Gwaelod Uchaf Bloc A ac ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 7.30am.

Mae sawl caffi Aroma ar gael hefyd sy’n gweini lluniaeth.

Mae’r Prif Gyntedd wedi’i leoli ar y llawr gwaelod ym mhrif fynedfa’r ysbyty ac mae ganddo ardal fanwerthu fach sy’n cynnwys swyddfa bost a detholiad bach o siopau.

Y Gymraeg - A fydd gwybodaeth/arwyddion ar gael yn Gymraeg?

Bydd gwybodaeth ac arwyddion ar gael yn Gymraeg.

Dilynwch ni