Fe'ch gwahoddir i'n Ffair Iechyd a Lles

Ydych chi’n chwilio am ffyrdd newydd a chyffrous o fod yn fwy actif ym Mro Morgannwg? Dewch i'n Ffair Iechyd a Lles!

Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro eich gwahodd i’n Ffair Iechyd a Lles, a drefnwyd mewn partneriaeth â Race Equality First a Cadw Fi’n Iach, i’ch helpu i ddarganfod sut y gallwch wella’ch iechyd a’ch lles.

Cynhelir y Ffair Iechyd a Lles ddydd Mawrth, 16 Mai yn Neuadd Goffa'r Barri o 10am tan 5pm.

Mae croeso i bawb alw heibio, cael diod am ddim a darganfod mwy am y ffyrdd cyffrous y gallwch chi fod yn fwy actif ym Mro Morgannwg. Mae mynediad am ddim a bydd y 50 ymwelydd cyntaf yn derbyn anrheg am ddim.

Bydd amrywiaeth o bartneriaid yn cynnal stondinau cyffrous gan gynnwys Down to Earth, Ein Dôl Iechyd, ESCAPE Pain, Zumba gyda Tracey Raikes a With Music in Mind.

Bydd cyfres o weithdai cyffrous hefyd yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd i roi blas i chi o’r gwahanol weithgareddau lleol sydd ar gael, gan gynnwys:

  • Sesiwn Gwybodaeth am y Menopos a Gweithgaredd dan arweiniad Meddyg Teulu
  • Sesiwn Cerdded Nordig dan arweiniad hyfforddwr (darperir polion)
  • Zumba ar eich eistedd dan arweiniad hyfforddwr
  • Gweithdy ‘With Music in Mind’
  • Bwyta'n Iach ar Gyllideb dan arweiniad deietegydd

Mae rhaglen lawn o’r gweithdai a rhestr o'r holl stondinwyr i'w gweld yma.

Dywedodd Liz Willey, ffisiotherapydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n trefnu’r digwyddiad: “Bydd bod yn actif yn rheolaidd yn edrych yn wahanol i bawb ac mae ein Ffair Iechyd a Lles yn gyfle gwych i chi ddod o hyd i’r hyn sy’n addas i chi.

“Byddwch yn gallu siarad â phobl leol sydd eisoes yn defnyddio gwasanaethau a grwpiau lleol a darganfod sut mae ansawdd eu bywyd wedi gwella a sut y gallwch chi gymryd camau bach i wella'ch iechyd a'ch lles. Mae bod yn actif yn rheolaidd yn ffordd wych ac yn aml am ddim i wella ein hiechyd corfforol a meddyliol.”

Mae'r Ffair Iechyd a Lles yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Race Equality First ac fe'i cefnogir gan Cadw Fi’n Iach.

Cadw'n Fi’n Iach yw gwefan iechyd a lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a ddyluniwyd gan glinigwyr a defnyddwyr gwasanaeth o bob rhan o'r rhanbarth. Bydd y wybodaeth ar y wefan hon yn helpu i gefnogi eich iechyd a’ch lles — p’un a ydych chi’n paratoi ar gyfer triniaeth, yn gwella ar ôl triniaeth, yn rheoli cyflwr hirdymor neu’n awyddus i fyw bywyd iachach a mwy actif.

I ddarllen mwy, cliciwch yma.

Hoffem ddiolch i Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro a Tesco am noddi'r digwyddiad.