Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Clefydau Prin 2026

Mae diwrnod clefydau prin yn ddathliad blynyddol sy'n amlygu’r tri chan miliwn o bobl sy'n byw gyda chyflyrau prin ledled y byd. Yn cael ei nodi bob blwyddyn ar 28 Chwefror, neu 29 Chwefror ar flwyddyn naid (diwrnod prinnaf y flwyddyn), mae'r mudiad hwn dan arweiniad cleifion yn dod â miliynau o unigolion ynghyd sy'n teimlo effaith clefydau prin mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys teuluoedd, gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, llunwyr polisi ac yn bwysicaf oll, y cleifion eu hunain.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, byddwn yn 'goleuo' ar gyfer clefydau prin ar draws ein safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru, i ddangos ein cefnogaeth i bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o gleifion sy'n byw gyda chlefydau prin, y mae llawer ohonynt o dan ofal ein cydweithwyr.

Mae'r Clinig SWAN (Syndrom Heb Enw), sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, hefyd wedi bod yn brysur yn codi ymwybyddiaeth o ddiwrnod clefydau prin, gan fynychu'r Derbyniad Diwrnod Clefydau Prin yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd, ddydd Mercher 25 Chwefror. Wedi'i drefnu gan Genetic Alliance UK, mae'r derbyniad yn dwyn ynghyd unigolion o bob rhan o'r gymuned clefydau prin, gan gynnwys cleifion, llunwyr polisi, gweithwyr proffesiynol a grwpiau cymorth. Mynychodd y tîm y digwyddiad ochr yn ochr â Pedal Power, elusen feicio hollgynhwysol yng Nghaerdydd sy'n gweithio i wella mynediad at feicio i bawb, gan gynnwys y rhai ag anableddau.

Mae’r Clinig SWAN yn wasanaeth Cymru gyfan ar gyfer cleifion sy'n oedolion a pheddiatrig yr amheuir eu bod â chyflwr prin, heb ddiagnosis. Ym mis Gorffennaf 2025, sicrhaodd y clinig gyllid rheolaidd gan Gydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn dilyn cynllun peilot tair blynedd llwyddiannus a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Manteisiodd Arweinydd Clinigol SWAN, Dr Graham Shortland, ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o gleifion SWAN a thynnu sylw at waith Pedal Power. Mae ar y llun yma gyda Rhys Holmes, un o ymddiriedolwyr yr elusen.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth i weithwyr proffesiynol am atgyfeiriadau i’r Clinig SWAN drwy e-bostio SWAN.Clinic.Cav@wales.nhs.uk

Mae rhagor o wybodaeth am y Clinig SWAN

Dysgwch ragor am Ddiwrnod Clefydau Prin

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni