Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir - Dewch i gwrdd a'n hinterniaid Project SEARCH

27 Mawrth 2023

Mae heddiw’n nodi’r Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir cyntaf, menter a lansiwyd gan Project SEARCH i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o ddarpariaeth addysg ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o fod yn sefydliad Project SEARCH ers 2021 ac mae’n cynnig interniaethau a gefnogir i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ar draws gwahanol adrannau gan gynnwys fferylliaeth, arlwyo, y switsfwrdd ac ystadau.

Mae rhaglen Project SEARCH yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd, Addewid Caerdydd a BIP Caerdydd a’r Fro ac mae’r rhaglenni hyn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau gofynnol sydd eu hangen ar interniaid er mwyn iddynt gael swyddi sy’n talu’n dda.

Mae’r myfyrwyr yn dechrau ac yn gorffen eu dydd gyda’u tiwtor coleg yn yr ystafell ddosbarth, ac yn treulio gweddill yr amser allan ar leoliad yn dysgu sgiliau sy’n ymwneud â’r swydd tra’n cael eu cefnogi gan y rheolwr lleoliad a hyfforddwr swyddi profiadol a fydd ar y safle bob amser.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o fanteision interniaethau a gefnogir, mae rhai o’n hinterniaid Project SEARCH wedi rhannu sut mae eu lleoliadau yn eu helpu i ddysgu a datblygu.

Ashley Parry-Ward

“Rwyf wedi mwynhau’r lleoliadau gwahanol a bod yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau. Fy hoff ran yw siarad â chydweithwyr, dysgu tasgau newydd a bod yn gyfrifol am swyddi.”

Joel Horn

“Rwy’n teimlo’n wych ar ôl gwneud yr holl bethau newydd hyn, mae wedi fy helpu i ddysgu sgiliau newydd ac wedi rhoi cyfeiriad i fi ar gyfer fy nyfodol. Rwy’n hoff iawn o gael fy nhrin fel oedolyn a chael cyfrifoldeb. Rwyf wedi dysgu mwy wrth wneud Project SEARCH nag y byddwn pe bawn wedi aros yn yr ysgol.

“Hoffwn weithio’n llawn amser fel saer coed neu drydanwr. Rwyf wedi gwneud cais am gwrs Gwaith Saer Lefel 1 yng Ngholeg Penybont.”

Joshua Bratcher

“Rwy’n bod yn gynhyrchiol iawn ac yn mwynhau gwaith ymarferol, mae’n fy helpu i gadw trefn.  Mae’r prosiect wedi rhoi syniad i fi o’r gwahanol swyddi sydd ar gael o fewn y Bwrdd Iechyd ac ar gyfer fy nyfodol. Hoffwn gael swydd o fewn y Storfa Dramwy.”

Joshua Hill

“Rwy’n mwynhau fy rôl yn yr adran Cynnal a Chadw. Rwy’n fwy ymwybodol o’r gwahanol swyddi sydd ar gael o fewn y Bwrdd Iechyd.”

Arif Abdul

“Rwy’n teimlo’n hapus ac yn cael fy nghroesawu gan yr adran yr wyf ynddi. Mae’r prosiect wedi fy ngwneud yn fwy annibynnol ac wedi gwella fy hunanhyder.

“Rwyf wedi mwynhau dysgu’r holl sgiliau newydd sydd eu hangen ar gyfer y gwahanol swyddi ac mae Project SEARCH wedi rhoi gwell syniad i fi o’r byd gwaith. Fy nod yw gweithio’n llawn amser yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.”

Alex Bamsey

“Rwy’n teimlo’n fwy hyderus ynof fy hun. Mae gweithio mewn gwahanol adrannau yn golygu fy mod wedi dysgu am swyddi gwahanol ac wedi datblygu sgiliau gwahanol. Hoffwn weithio yng nghaffi Aroma.”

Kai O’Brien

“Rwy’n teimlo’n fwy hyderus ynof fy hun ac rwy’n mwynhau gweithio ochr yn ochr â’m cydweithwyr. Rwy’n hoffi defnyddio’r robot a mynd i ailstocio’r wardiau.”

Viola Bullatovci

“Mae bod yn rhan o’r prosiect wedi fy ngwneud i’n fwy annibynnol ac rydw i wedi mwynhau dysgu’r sgiliau gwahanol sydd eu hangen ar gyfer y gwahanol swyddi. Fy nod yw dod o hyd i waith yn yr adran fferylliaeth.”

Malcolm Hallsmith

“Rwy’n obeithiol ac yn gyffrous am gael swydd ar ôl Project SEARCH. Fy hoff ran yw cael cyfleoedd gwahanol mewn gwahanol feysydd. Hoffwn weithio fel swyddog cadw tŷ ar ôl i mi orffen y rhaglen.”

I ddarllen mwy am Project SEARCH, ewch i dfnprojectsearch.org.

Dilynwch ni