18 Chwefror 2026
Mae coeden ifanc a dyfwyd o'r goeden Sycamore Gap annwyl a oedd unwaith yn sefyll uwchben Mur Hadrian yn Northumberland wedi'i phlannu yn Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl), fel symbol pwerus o obaith i bobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig, a'r anwyliaid a'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n eu cefnogi.
Wedi'i phlannu mewn seremoni fach ddydd Mercher 18 Chwefror, mae'r goeden ifanc yn un o ddim ond 49 a dyfwyd o hadau a gasglwyd o'r sycamorwydden eiconig 49 troedfedd a dorrwyd yn anghyfreithlon yn 2023. Rhoddwyd y goeden ifanc fel rhan o fenter Coed Gobaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dewiswyd Cronfa Bywyd Gwell Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion, sydd wedi'i lleoli yn YALl, o blith cannoedd o geisiadau i dderbyn y goeden ifanc.
Dywedodd Meddyg Ymgynghorol y Frest a Meddyg CF, Dr Dawn Lau, a arweiniodd y cais: “Rydym wrth ein bodd yn derbyn, ac yn rhoi cartref i goeden ifanc y Sycamore Gap. Mae'n ymgorffori symbol mor arbennig o obaith sy'n deillio o adfyd, anobaith ymddangosiadol a cholled.”
Mae’r Gronfa Bywyd Gwell yn cefnogi Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion. Fe'i crëwyd i helpu i ariannu’r gwaith o sefydlu a datblygu’r ganolfan yn barhaus, yn ogystal â chefnogi gofal cleifion ac anghenion pobl â Ffeibrosis Systig ledled Cymru.
Mae Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru Gyfan i Oedolion yn darparu gofal arbenigol i 350 o oedolion o bob cwr o Gymru a siroedd cyfagos sy'n byw gyda Ffeibrosis Systig, cyflwr etifeddol sy'n effeithio ar yr ysgyfaint, y system dreulio ac organau mewnol eraill. Mae'r ganolfan yn darparu mynediad at dîm amlddisgyblaethol gan gynnwys nyrsys arbenigol, staff ward, ffisiotherapyddion, meddygon ymgynghorol, deietegwyr, gweithwyr cymdeithasol a seicolegwyr.
Mae datblygiadau mewn triniaeth, meddyginiaeth a diagnosis cynnar wedi gwella disgwyliad oes yn sylweddol i'r rhai sy'n byw gyda CF. Ond mae rheoli'r cyflwr yn parhau i fod yn gymhleth, yn flinedig ac yn cymryd llawer o amser, ac mae pobl â Ffeibrosis Systig yn wynebu heriau corfforol a seicolegol sylweddol.
Dywedodd Dr Lau: "I bobl sy'n byw gyda Ffeibrosis Systig a chyflyrau genetig cronig eraill sy'n cyfyngu ar fywyd, yn ogystal â'r rhai sy'n gofalu amdanynt, mae'r 'Goeden Obaith' hon yn symbol gweledol o gryfder a dyfalbarhad, a hefyd yn etifeddiaeth i'r rhai sydd wedi mynd o'u blaenau."
Mynychodd clinigwyr, cyn-gydweithwyr, perthnasau cleifion ac aelodau'r Bwrdd Iechyd y seremoni blannu.
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Suzanne Rankin: “Mae’r goeden ifanc hon yn dod o goeden a oedd yn golygu llawer iawn i lawer o bobl. Pan gafodd ei cholli, gadawodd ymdeimlad o dristwch hirbarhaol. Mae plannu'r goeden newydd hon yn creu arwydd gweladwy o obaith, parhad ac adnewyddiad mewn amgylchedd a all yn aml deimlo'n llawn straen neu'n ansicr.
“Wrth iddi wreiddio a thyfu, rydym yn gobeithio y bydd yn dod yn atgof byw o bŵer gobaith, pwysigrwydd cymuned, ac effaith barhaus cefnogaeth a thrugaredd ym mywydau pobl.”
Mae'r goeden ifanc, a all fyw hyd at 400 mlynedd, wedi'i phlannu yn Ein Dôl Iechyd, gofod gwyrdd saith erw'r ysbyty sy'n cynnig ardal awyr agored groesawgar i gleifion, ymwelwyr a staff y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Dr Lau: “Bydd yn fendith ymarferol i’r rhai sy’n ddigon ffodus i allu mwynhau ei harddwch a’i chysgod ar dir yr ysbyty.”
Pan gyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol dderbynwyr 49 o goed ifanc y 'Goeden Obaith' ym mis Tachwedd 2024, dywedodd Andrew Poad, Rheolwr Cyffredinol Eiddo Mur Hadrian yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: “Roedd pob cais am 'Goeden Obaith' yn adrodd straeon calonogol am gysylltiadau emosiynol pobl â choeden y Sycamore Gap a phwysigrwydd natur. Fe wnaethon nhw siarad am golled, gobaith ac adfywio o bob cwr o'r wlad, o drefi, ysgolion, colegau, grwpiau cymunedol, ysbytai a hosbisau, mae wedi bod yn fraint eu darllen nhw i gyd.
“Roedd y goeden yn golygu cymaint i gynifer a thrwy’r fenter ‘Coed Gobaith’ rydym yn helpu i gyrraedd pobl ledled y genedl, am genedlaethau i ddod.”
Dyma'r unig goeden ifanc o blith y 'Coed Gobaith' i gael ei phlannu ym Mro Morgannwg ac mae’n un o dair yng Nghymru, gydag eraill yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac Ysgol Gynradd Rhiwbina yng Nghaerdydd. Bydd tair coeden ifanc arall yn cael eu plannu ym mhob un o Barciau Cenedlaethol Cymru.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.