Mae'r sesiwn hon yn tybio eich bod eisoes yn cynnal gwerthusiadau, ac mae'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r broses newydd i fesur gwerthoedd ac ymddygiadau ochr yn ochr ag amcanion perfformiad, gan ddatblygu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o werthuso a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn y sefydliad.
Sylwch nad yw'r sesiwn hon yn caniatáu amser ar gyfer trafodaethau manwl, ac felly dim ond i werthuswyr hyderus y mae'n addas.
Anelir y sesiwn hon at y staff hynny sy'n newydd i werthuso neu a hoffai ddiweddaru neu wella eu sgiliau, ac mae'n cynnwys sgiliau gwrando, holi, ac adborth.
Sylwch fod y sesiwn hon wedi'i chynllunio i'r rheini sy'n newydd i werthusiadau, sy'n amhrofiadol, neu a hoffai brofiad manylach. Os ydych yn hyderus yn eich sgiliau gwerthuso, a'r cyfan sydd ei angen arnoch yw diweddaru i'r broses newydd, nid yw'r sesiwn hon yn addas.
Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd - Sesiynau Gwybodaeth
Os hoffech gynnal sesiwn wybodaeth i staff, ceir cyflwyniad isod a allai fod yn ddefnyddiol.
Adnoddau Allweddol
- Canllaw i'r Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd
- Llyfryn Cofnodi Gwerthusiad Seiliedig ar Werthoedd
- Offeryn Hunanasesu
- Templed Amcanion
- Templed Cynllun Gweithredu Datblygiad
- Templed casglu adborth
- Gweithdrefn hyfforddi statudol a gorfodol
- Canllaw i lanlwytho i ESR