Mae gan holl weithwyr BIPCAF, yn ogystal â’r holl feddygon teulu a staff practis yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, hawl i ymuno â’r llyfrgell. Darperir y gwasanaeth llyfrgell gan Brifysgol Caerdydd, felly pan fyddwch yn cofrestru byddwch hefyd yn gallu defnyddio holl safleoedd Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.
Rydym yn darparu tair ffordd o gofrestru.
Gallwch ymuno yn y Llyfrgell Iechyd, Adeilad Cochrane, Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn Llyfrgell Archie Cochrane, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Bydd angen eich cerdyn adnabod BIPCAF arnoch i gofrestru.
Anfonwch e-bost at cochraneliby@cardiff.ac.uk i ofyn am ffurflen gofrestru.
Llenwch y ffurflen ar-lein drwy wefan Gwasanaeth Llyfrgell GIG Cymru i gofrestru ar-lein.
LibrarySearch GIG Cymru - canfod llyfrau print ac ar-lein, cyfnodolion ac adnoddau yn BIPCAF ac ar draws holl lyfrgelloedd iechyd GIG Cymru ac e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru;
mannau astudio gyda chyfrifiaduron rhwydwaith BIPCAF yn Ysbyty Athrofaol Cymru a Llandochau - Llyfrgell Archie Cochrane, Llyfrgell Brian Cooke, Llyfrgell Iechyd a Pharth Astudio Staff a Myfyrwyr Ôl-raddedig Llyfrgell Iechyd y GIG yn Ysbyty Athrofaol Cymru (gofynnwch am fynediad gan: healthlibrary@cardiff.ac.uk);
gwasanaeth gwneud cais - gofyn am lyfrau ac erthyglau nad ydynt ar gael yn lleol;
cyfleusterau llungopïo, argraffu a sganio;
LibrarySearch - dod o hyd i eitemau ym mhob un o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd;
benthyg hyd at 35 o eitemau o unrhyw lyfrgell ym Mhrifysgol Caerdydd.
I gael help gyda chronfeydd data, chwilio am lenyddiaeth, adolygiadau llenyddiaeth systematig a hawlfraint cysylltwch â cochraneliby@cardiff.ac.uk. Gofynnwch i ni am help gydag e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru a sut i gael mynediad at destun llawn. Gellir trefnu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth yn unigol ac mewn grwpiau.
Mae’r Llyfrgell Iechyd a Llyfrgell Archie Cochrane ill dau yn darparu mynediad 24 awr, a bydd angen eich cerdyn llyfrgell arnoch sy’n cynnwys eich llun. Mae hyn yn gweithredu fel cerdyn sweipio i mewn i’r adeiladau. I gael manylion am ddrysau mynediad ac amseriadau, neu i ofyn i’ch cerdyn gael ei actifadu, cysylltwch â cochraneliby@cardiff.ac.uk.
Mae ein canllaw rhagarweiniol yn esbonio sut i ymuno â’r llyfrgell ac yn crynhoi’r gwasanaethau sydd ar gael i chi. Gallwch gael mynediad at y canllawiau yma.