Neidio i'r prif gynnwy

Dod o hyd i wybodaeth

Mae ystod eang o adnoddau clinigol ac anghlinigol ar gael mewn print ac yn electronig drwy: 
 

LibrarySearch GIG Cymru 

Catalog ar-lein yw LibrarySearch GIG Cymru ar gyfer llyfrgelloedd GIG Cymru (gan gynnwys Llyfrgelloedd Iechyd Prifysgol Caerdydd) ac e-Lyfrgell GIG Cymru. I ddefnyddio’r adnoddau hyn yn effeithiol, bydd angen i chi fod yn aelod cofrestredig o’r llyfrgell.  

Mae’n rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at rai adnoddau. Os oes gennych chi gyfeiriad e-bost GIG Cymru a chyfrif rhwydwaith (Nadex), defnyddiwch nhw pan ofynnir i chi i “ddewis sut i fewngofnodi”. 

Os nad oes gennych e-bost a manylion mewngofnodi GIG Cymru, e-bostiwch cochraneliby@cardiff.ac.uk

Ar ôl mewngofnodi, ni ddylai fod angen i chi fewngofnodi eto yn ystod eich sesiwn. 

Os na allwch ddod o hyd i’r llyfr neu’r cyfnodolyn rydych yn chwilio amdano, neu os ydynt yn cael eu cadw y tu allan i Gaerdydd, llenwch y ffurflen gais rhyng-lyfrgell ar LibrarySearch GIG Cymru (ar frig y ddewislen) neu e-bostiwch cochraneliby@cardiff.ac.uk gyda’r manylion. 

 

E-Lyfrgell GIG Cymru: e-adnoddau ar gyfer holl staff GIG Cymru 

Mae e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae ar gael i holl staff GIG Cymru. 

Mae gan yr e-Lyfrgell gasgliad eang o gronfeydd data, crynodebau tystiolaeth, e-gyfnodolion, e-lyfrau, gwybodaeth am feddyginiaethau, canllawiau clinigol gan gynnwys y Royal Marsden Manual Online, BMJ Learning, BMJ Best Practice, BMJ Case Reports, a ClinicalKey. 

Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais rhwydwaith GIG Cymru, ni ddylech orfod mewngofnodi. Os nad ydych wedi mewngofnodi i’r rhwydwaith GIG, gofynnir i chi fewngofnodi gyda chyfeiriad e-bost GIG Cymru neu gyfrif OpenAthens. 

 

Adnoddau iechyd a lles staff 

Mae gennym amrywiaeth o lyfrau hunangymorth a lles yn ein llyfrgelloedd, gan gynnwys teitlau o’r cynllun Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn. 

Dilynwch ni