Ar gyfer cwestiynau cyffredinol, e-bostiwch cochraneliby@cardiff.ac.uk neu ffoniwch 02920 716255.
Gallwn eich helpu gydag ymholiadau cyffredinol, i ddefnyddio cronfeydd data, chwilio am lenyddiaeth, adolygiadau llenyddiaeth systematig a hawlfraint. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ar e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru.
Gallwn roi cymorth un-i-un neu ymweld ag adrannau naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb i gynnal sesiynau ymsefydlu’r llyfrgell a hyfforddiant sgiliau gwybodaeth. Anfonwch e-bost at cochraneliby@cardiff.ac.uk i drefnu dyddiad ac amser.
Cewch, gallwch gael mynediad at filoedd o e-lyfrau ac e-gylchgronau o unrhyw le, yn gyflym ac yn hawdd, gan ddefnyddio ein catalog ar-lein Chwiliad Llyfrgell GIG Cymru.
Na, mae ein holl wasanaethau yn rhad am ddim i weithwyr BIPCAF.
Ewch i’n tudalen ‘Ymunwch â Ni’ i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Mae gennym restr chwarae Youtube o ganllawiau ar sut i ddefnyddio Chwiliad Llyfrgell GIG Cymru, neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw broblemau; e-bostiwch cochraneliby@cardiff.ac.uk, neu ffoniwch ni ar 02920 715497 (Llun – Gwener 08:30-17:00).
Cewch, os oes eitem sydd ddim gennym ni, gallwch chi ddefnyddio Chwiliad Llyfrgell GIG Cymru i wneud cais am fenthyciad rhwng llyfrgelloedd gan ddefnyddio’r opsiwn ar frig yr hafan. Fel arall, anfonwch e-bost atom a gallwn wneud cais ar eich rhan. Efallai y byddwn hefyd yn ystyried prynu copi ar gyfer ein casgliad.
Ewch i’n tudalen ‘Eich Llyfrgelloedd’ i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch!
Os ydych chi’n teimlo’n bryderus am ddefnyddio llyfrgelloedd, gallwch chi alw heibio yn ystod oriau wedi’u staffio neu gysylltu â ni ymlaen llaw a gofyn am gael eich tywys o gwmpas; rydym bob amser yn hapus i helpu.
Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r adnoddau amrywiol a ddarparwn, naill ai 1-i-1 neu mewn grwpiau.
Cysylltwch drwy e-bostio cochraneliby@cardiff.ac.uk, neu ffoniwch ni i drefnu ar 02920 715497 (Llun – Gwener 08:30-17:00).
Gallwn, rydym yn cynnig gwasanaeth chwiliad llenyddiaeth sy’n helpu i ddarparu’r ymchwil diweddaraf, dogfennau polisi a chanllawiau sydd eu hangen arnoch i gefnogi eich ymarfer a’ch ymchwil. Ewch i’n tudalen ‘Chwilio am Lenyddiaeth’ am ragor o wybodaeth.