Neidio i'r prif gynnwy

Chwiliadau Llenyddiaeth

Os ydych yn ymwneud â gwella ansawdd, archwilio clinigol, ymchwil, neu os oes gennych achos claf cymhleth, gallwch ofyn i ni ddod o hyd i’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnoch. Anfonwch e-bost at cochraneliby@cardiff.ac.uk gyda gwybodaeth am eich pwnc i ddechrau arni.

Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ar gynnal chwiliadau llenyddiaeth ar draws nifer o gronfeydd data, ar reoli canlyniadau, ac ar arfarnu beirniadol. Gellir cynnig y sesiynau hyn ar sail 1-i-1, mewn grŵp, ar-lein neu wyneb yn wyneb, yn ôl yr angen.

Mae tudalen cronfeydd data e-Lyfrgell GIG Cymru yn rhoi mynediad at ystod o gronfeydd data clinigol a rheoli ar gyfer eich chwiliad llenyddiaeth, gan gynnwys:

Meddygaeth Gyflenwol a Pherthynol (AMED); Mynegai a Chrynodebau Gwyddor Gymdeithasol Gymhwysol (ASSIA); Cronfa Ddata Nyrsio Prydain; CINAHL Plus with Full Text; Llyfrgell Cochrane; EMBACE; Cronfa Ddata Gweinyddu Gofal Iechyd; Consortiwm Gwybodaeth Rheoli Iechyd (HMIC); Cronfa Ddata Mamolaeth a Gofal Babanod (MIDIRS); MEDLINE; Medicines Complete; Travel Health Pro; TRIP Pro; WISDOM. 

Dilynwch ni