Mae'r BIP yn deall ei bod weithiau'n anodd cael cydbwysedd rhwng gofynion cyfrifoldebau gwaith a chartref. Mae'r Polisi Absenoldeb Arbennig yn bodoli i gefnogi staff ar adegau o angen brys annisgwyl drwy ganiatáu iddynt gymryd absenoldeb ychwanegol.
Bwriedir i'r polisi hwn ymdrin â'r sefyllfaoedd canlynol:
Mae'r Polisi hefyd yn nodi beth i'w wneud pan ofynnir am amser i ffwrdd ar gyfer:
Ni fwriedir yr absenoldeb a roir o dan y polisi hwn ar gyfer sefyllfaoedd domestig a theuluol tymor hir, y gellir darparu ar eu cyfer mewn ffyrdd eraill, e.e. gwyliau blynyddol, gwyliau heb dâl, lleihau oriau gwaith ac ati.
Nod y pecyn cymorth hwn yw rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar gymhwyso'r Polisi Absenoldeb Arbennig. Mae'r pecyn cymorth yn eich galluogi i lawrlwytho'r ffurflen ofynnol yn gyflym ac mae cwestiynau cyffredin i roi cyfarwyddyd ar ymholiadau Absenoldeb Arbennig cyffredin i reolwyr a staff.
Cwestiynau Cyffredin Absenoldeb Arbennig
Ffurflen Gais Absenoldeb Arbennig
Mae'r BIP yn cefnogi cyflogeion sy'n aelodau o'r Lluoedd Wrth Gefn Gwirfoddol neu sy'n dymuno ymuno â'r lluoedd hyn.
Bydd hyd at 10 diwrnod y flwyddyn o absenoldeb gyda thâl ar gael i Filwyr Wrth Gefn er mwyn iddynt fynychu gwersyll blynyddol neu hyfforddiant parhaus cyfatebol. Dylid cymryd unrhyw absenoldeb ychwanegol sy'n ofynnol fel gwyliau blynyddol neu ddi-dâl. Bydd rheolwyr llinell, cymaint ag sy'n bosibl, yn hwyluso rhestri dyletswyddau gwaith i ganiatáu mynychu gwersyll blynyddol ac ymrwymiadau hyfforddi eraill e.e. sesiynau hyfforddi wythnosol neu benwythnos. Dylai cyflogeion sy'n filwyr wrth gefn roi cymaint o rybudd ag sy'n bosibl er mwyn cynllunio'n briodol ar gyfer absenoldebau.
Byddino yw'r broses o alw milwyr wrth gefn i wasanaeth amser llawn. Rhaid i gyflogai sydd am wirfoddoli ar gyfer byddino gael cytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw drwy ei reolwr llinell.
I ymgeisio am absenoldeb gyda thâl am hyfforddiant blynyddol neu i roi gwybod i'ch rheolwr y byddwch yn byddino, defnyddiwch y ffurflenni canlynol:
Ffurflen Ganiatâd Byddino'r Lluoedd Wrth Gefn
Ffurflen Gais Hyfforddiant y Lluoedd Wrth Gefn