Ers y pandemig COVID-19 rydyn ni i gyd wedi gorfod bod yn fwy addasadwy, hyblyg a dyfeisgar yn ein dull gweithredu, a hynny i raddau digynsail. Mae hyn wedi atgyfnerthu gweledigaeth y BIP y gall llawer o staff, gan gynnwys rhai mewn rolau clinigol, gyflawni ystod o'u dyletswyddau arferol yn llwyddiannus o bell.
Mae gan weithio ystwyth y potensial i fod o fudd i'r sefydliad ac aelodau staff unigol, cyhyd â bod y mesurau diogelu cywir ar waith a bod seilwaith TG priodol ar gael. Mae'r Fframwaith Gweithio Ystwyth yno i gefnogi rheolwyr a staff gyda hyn.
Nid oes ‘un ateb i bawb' o ran gweithio ystwyth. Dylai rheolwyr sicrhau eu bod yn adnabod eu staff a siarad â nhw am sut y bydd gweithio ystwyth yn effeithio arnyn nhw a'r gwasanaeth maen nhw'n ei ddarparu. Nid yw'r Fframwaith hwn yn disgrifio sut olwg fydd ar weithio ystwyth yn eich ardal chi — mae'n rhoi rhyddid i reolwyr a staff, o fewn paramedrau penodol, i drafod a chytuno ar drefniadau gwasanaeth, tîm ac unigol addas ac mae'n tynnu sylw at rai o'r manteision a'r risgiau i'w hystyried wrth roi'r trefniadau hyn ar waith. Mae ymgorffori diwylliant o ymddiriedaeth a pharch at eich gilydd yn hanfodol er mwyn gwireddu manteision gweithio ystwyth ac mae'n gyson â Gwerthoedd BIP Caerdydd a'r Fro ac Egwyddorion Craidd GIG Cymru.