Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar sefydliadau i sicrhau bod eu staff yn derbyn hyfforddiant i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i sicrhau gweithle diogel ac iach.
Mae hyfforddiant statudol yn hyfforddiant ar gyfer yr holl staff sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, neu lle mae corff statudol wedi cyfarwyddo'r BIP i ddarparu hyfforddiant ar sail deddfwriaeth e.e. diogelwch tân
Hyfforddiant gorfodol yw'r gofynion hyfforddi a bennwyd gan y BIP ac sy'n ymwneud â lleihau risg.
Er mwyn i hyfforddiant ddod yn orfodol, mae'n rhaid i'r arbenigwyr pwnc perthnasol gyflwyno ffurflen gais i'r Grŵp Llywio Hyfforddiant Gorfodol (MTSG).
Darllenwch y Weithdrefn Hyfforddi Gorfodol am wybodaeth bellach, gan gynnwys cyfrifoldebau.