Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn ysbyty addysgu ac mae arno angen cleifion sy'n addas i ddeintyddion dan hyfforddiant, dan oruchwyliaeth, eu trin.
Byddwch yn gymwys am driniaeth dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol (heblaw mewn argyfwng i leddfu poen):
Ar ôl cael eich sgrinio gan ddeintyddion dan hyfforddiant sy'n cael eu goruchwylio gan staff hyfforddedig, bydd y driniaeth y mae ei hangen arnoch yn cael ei thrafod gyda chi, a chewch wybod p'un ai a ydych chi'n addas i gael eich trin gan ein deintyddion dan hyfforddiant ai peidio. Ar ôl cytuno ar hyn, cewch eich rhoi ar restr aros addas. Byddwch yn ymwybodol nad yw unrhyw dargedau Rhestri Aros y GIG yn berthnasol i'r rhestr aros hon ac, felly, cewch wahoddiad i apwyntiad dim ond pan fydd eich anghenion o ran triniaeth yn cyfateb i anghenion addysg y myfyrwyr.
Gallai methu bod yn bresennol ddwywaith yn olynol, ni waeth a wnaethoch chi ffonio i roi gwybod i ni ai peidio, arwain at eich rhyddhau o'n gofal os bydd yr uwch aelod staff clinigol o'r farn bod hyn wedi tarfu ar addysg y myfyriwr.
Os bydd argyfwng deintyddol yn codi tra byddwch chi'n cael cwrs triniaeth, byddwch yn gymwys i ddod i'r Clinig Brys yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol. Rhaid i gleifion sy'n cael triniaeth ar hyn o bryd, ac sydd mewn argyfwng, ffonio 02921 842415. Mae'r rhif hwn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc.
Ar ôl cwblhau eich cwrs triniaeth, cewch eich rhyddhau o ofal Ysbyty Deintyddol y Brifysgol.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i bractis deintyddol i barhau â'ch gofal.