Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau i Weithwyr Iechyd Proffesiynol

Mae gan Ysbyty Deintyddol y Brifysgol glinig argyfwng yn bennaf ar gyfer gofal cleifion sydd naill ai'n derbyn eu prif ofal deintyddol gan fyfyrwyr israddedig neu sy'n gleifion mewnol y Bwrdd Iechyd Prifysgol ac mae arnynt angen sylw deintyddol ar frys. Mae ychydig o ofal mewn argyfwng ar gael ar gais Deintydd Cyffredinol trwy ffonio Ysbyty Deintyddol y Brifysgol ar 02921 842415.

Mae'r protocol atgyfeirio hwn yn sylfaen ar gyfer derbyn cleifion i Ysbyty Deintyddol y Brifysgol am ofal priodol. Mae Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn derbyn atgyfeiriadau gan Ddeintyddion Cyffredinol, y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, Meddygon Teulu ac atgyfeiriadau trydyddol gan arbenigwyr ysbyty. 

Ers 28 Mai 2019, nid yw Ysbyty Deintyddol y Brifysgol yn derbyn atgyfeiriadau drwy'r post mwyach (ac eithrio gan Radioleg).  I atgyfeirio claf i gael triniaeth, cliciwch yma

Gallwch lawrlwytho'r ffurflenni atgyfeirio perthnasol isod:

Canllaw Arfer Da Deintyddiaeth Bediatrig 

Nod Canllaw Arfer Da Deintyddiaeth Bediatrig yw cynorthwyo timau deintyddol clinigol gofal sylfaenol i reoli a thrin plant â phydredd dannedd yn effeithiol. Trwy wneud hynny, byddant yn cyfrannu at leihau nifer y plant y mae angen anesthetig cyffredinol arnynt i dynnu dannedd yng Nghymru. Darllenwch Canllaw Arfer Da Deintyddiaeth Bediatrig.

Cyngor ar Weithredu Proffylacsis Gwrthfiotigau SDCEP 

Gweld y Cyngor ar Weithredu Proffylacsis Gwrthfiotigau yn erbyn Endocarditis Heintiol 

 

 

Dilynwch ni