Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau'r Ysbyty Deintyddol a Chanslo

Yn ystod eich apwyntiad cyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar asesu eich anghenion o ran triniaeth. Fel rhan o'r broses honno, gall fod angen tynnu lluniau pelydr-x a chael eich hanes meddygol. Sicrhewch eich bod yn deall eich anghenion o ran triniaeth trwy drafod unrhyw bryderon gyda'r clinigydd. 

Yn yr apwyntiad cychwynnol, cewch wybod p'un ai a ydym yn gallu darparu triniaeth. Yna, rhoddir eich enw ar y rhestr aros briodol. 

Os na allwch ddod i'ch apwyntiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gall yr apwyntiad gael ei gynnig i rywun arall. 

Os bydd arnoch angen canslo apwyntiad, ffoniwch y prif Switsfwrdd ar 029 2074 7747, a gofynnwch iddynt eich trosglwyddo i'r Ysbyty Deintyddol. Ni dderbynnir ceisiadau am ganslo a wneir drwy'r e-bost.

Fel arfer, byddwn yn eich rhyddhau o'n gofal os byddwch yn methu dod i apwyntiad. Mae ar ein myfyrwyr angen i'w cleifion fod yn bresennol er mwyn iddynt raddio.

Dilynwch ni