Pwy all ddefnyddio ein gwasanaeth?
Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio gan eich deintydd, neu os oes gennych gyflwr meddygol, gall eich deintydd eich atgyfeirio chi.
Pa wasanaethau rydych chi'n eu darparu?
Mae gan yr Ysbyty Deintyddol nifer o adrannau arbenigol, gan gynnwys Llawdriniaeth yr Ên a'r Wyneb, Meddygaeth y Geg, Deintyddiaeth Adferol, Pediatreg ac Orthodonteg. Mae pob arbenigedd yn gweld cleifion newydd i'w hasesu, a all arwain at driniaeth yn yr ysbyty. Hefyd, mae'r Ysbyty Deintyddol yn cynnal Adran Archwiliadau ac Argyfyngau sy'n cynnig triniaeth dros dro a thriniaeth lleddfu poen yn dilyn atgyfeiriad o'r Llinell Gymorth Ddeintyddol – 029 20 444 500.
Beth os bydd fy mhroblem yn gwella neu'n gwaethygu tra byddaf ar y rhestr aros?
Os bydd eich problem yn gwella ac ni fydd angen i chi ddod i'n gweld mwyach, da chi rhowch wybod i ni, fel y gallwn gynnig yr apwyntiad i rywun arall. Os bydd eich problem yn gwaethygu, rhaid i chi fynd i weld yr ymarferwr a'ch atgyfeiriodd, oherwydd ef / hi sy'n gyfrifol am eich gofal ac am leddfu poen tra byddwch chi'n aros am eich apwyntiad cyntaf gyda ni.
Beth os bydd fy manylion personol yn newid?
Rhowch wybod i ni, naill ai dros y ffôn (029 2074 2413 / 5337) neu drwy'r post os bydd eich manylion personol yn newid. Anfonwch fanylion at y Cofnodion Deintyddol / Dental Records, Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 4XY.
Pa wasanaethau nad ydych chi'n eu darparu?
Nid ydym yn derbyn atgyfeiriadau am resymau economaidd.
Nid ydym yn derbyn atgyfeiriadau am fewnblaniadau oherwydd prinder cyllid, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol (gweler isod).
A fydd yn rhaid i mi dalu?
Mae'r Ysbyty Deintyddol yn ysbyty addysgu ac nid yw'n codi tâl am driniaeth.
A allaf i gael fy nhrin gan y myfyrwyr?
Mae cleifion yn gymwys i gael eu trin gan fyfyrwyr dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol:
nid ydych chi wedi cofrestru gyda deintydd
bydd angen i chi gytuno i gael eich trin gan ddeintyddion dan hyfforddiant, dan oruchwyliaeth
dylech fod yn barod i dreulio awr i 2 awr gyda ni bob ymweliad
dylech allu dod i'r Ysbyty Deintyddol yn ystod oriau gwaith arferol (h.y. 9am - 4pm dydd Llun i ddydd Gwener)
sylwch - nid yw cludiant ysbyty (ambiwlansys) na chyfieithwyr yn cael eu darparu i gleifion sy'n cael triniaeth gan fyfyrwyr.
A ydych chi'n darparu triniaeth frys i blant?
Os ydych chi'n gofalu am blentyn ac mae angen triniaeth frys ar y plentyn, gallwch ddod i'r Ysbyty Deintyddol o ddydd Llun i ddydd Gwener, am 8:30am, a hefyd ar ddydd Gwener am 1:30pm. Gwelir cleifion yn ôl blaenoriaeth glinigol.
Beth sy'n cael ei ystyried yn argyfwng deintyddol?
Poen difrifol, chwyddo, trawma a gwaedu trwm.
Sut rydw i'n mynd ati i gael triniaeth orthodontig?
Rhaid i chi gael eich atgyfeirio gan ddeintydd er mwyn cael triniaeth orthodontig.
A ydych chi'n gwneud mewnblaniadau?
Yn anffodus, oherwydd prinder cyllid, gosodwyd meini prawf llym ar gyfer derbyn cleifion. Ar hyn o bryd, dim ond cleifion yn y tri grŵp canlynol rydym ni'n eu derbyn:
cleifion oncoleg y mae angen mewnblaniadau arnynt er mwyn adsefydlu yn dilyn triniaeth ganser
cleifion ag anhwylderau datblygiadol, fel gwefus a thaflod hollt, a hypodontia
cleifion sydd wedi cael trawma mawr yn arwain at golli sawl dant, er enghraifft yn dilyn damwain draffig.
A ydych chi'n darparu gardiau ceg ar gyfer chwaraeon cyswllt?
Mae gan yr Ysbyty Deintyddol y cyfleusterau i wneud gardiau ceg ar gyfer chwaraeon cyswllt. Gweler y tab Gwybodaeth i Gleifion am brisiau.
A godir tâl am declynnau orthodontig newydd?
Gwneir, codir tâl am ddalwyr a theclynnau orthodontig newydd. Gweler y tab Gwybodaeth i Gleifion am brisiau.
Beth os oes angen i mi ganslo fy apwyntiad?
Os na allwch fynd i'ch apwyntiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gall yr apwyntiad gael ei gynnig i rywun arall. Os na fyddwch yn cysylltu â ni, gallech gael eich rhyddhau o'n gofal.
Sut rydw i'n dod o hyd i ddeintydd y GIG?
Caerdydd a Bro Morgannwg - 029 20 444 500
Merthyr a Rhondda Cynon Taf - 01443 744800.
Dylai unrhyw ardaloedd heblaw am yr uchod ffonio Llinell Gymorth Ddeintyddol GIG Cymru ar 0845 60 10 128 neu fynd i www.nhsdirect.wales.nhs.uk/localservices
Pa mor hir yw'r rhestri aros?
Bydd yn dibynnu ar faint o frys y mae angen i chi gael triniaeth. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Sut rydw i'n mynd ati i gael triniaeth frys?
Os ydych chi'n amau bod angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch ond nid oes gennych eich deintydd eich hun, rhaid i chi ffonio 029 20 444 500.
A ydych chi'n trefnu cludiant ambiwlans?
Nac ydym, gall cleifion drefnu cludiant ambiwlans eu hunain trwy gysylltu ã'r Ganolfan Archebu Cludiant ar 0800 32 82 332 i drefnu cludiant ambiwlans. Rhaid i chi roi o leiaf 48 awr o rybudd a rhaid bod gennych yr holl wybodaeth berthnasol angenrheidiol, fel enw, cyfeiriad, rhif ysbyty, enw'r ysbyty neu'r clinig, a dyddiad ac amser yr apwyntiad.
A oes gwasanaeth y tu allan i oriau ar gael?
Nac oes, dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am tan 5pm, yw ein horiau agor. Os bydd angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch y tu hwnt i'r oriau hyn, rhaid i chi ffonio 029 20 444 500.
A ydych chi ar agor ar y penwythnos?
Nid yw'r Ysbyty Deintyddol ar agor ar y penwythnos nac ar wyliau banc. Os bydd angen triniaeth frys arnoch yn ystod y cyfnodau hyn, rhaid i chi ffonio 029 20 444 500.
A ydych chi'n ymweld â'r cartref?
Nid yw'r Ysbyty Deintyddol yn cynnig ymweliadau â'r cartref. Os oes ar rywun angen ymweliad â'r cartref, rhaid iddynt ffonio 029 2019 0175 i gael rhagor o wybodaeth.